empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

Amdanom Ni

 

Yn Archifau Morgannwg gallwn eich helpu i ddeall ychydig mwy am hanes y sir, lle’r ydych yn byw, eich cyndeidiau sydd wedi byw yn yr ardal, a llawer o agweddau eraill ar hanes Morgannwg. Mae ein cofnodion yn cynnwys gwybodaeth am bob math o bobl sydd wedi byw ym Morgannwg - o aelodau blaenllaw y gymuned i weision a phobl dlawd.

Mae’r dogfennau gwerthfawr hyn yn unigryw a digymar, a chaiff cofnodion eu derbyn a’u gosod mewn ystafelloedd storio sydd wedi’u rheoli’n amgylcheddol. Archifwyr sy’n cyflawni’r gwaith catalogio. Mae’r uned Gadwraeth yn gofalu am gadw’r casgliadau drwy drwsio dogfennau a rheoli’r ystafell ddiogel.

 

Mae ein hystafell chwilio yn cynnwys man i edrych ar ddogfennau gwreiddiol a darllenwyr microffilm a microfiche. Mae ein catalogau a mynegeion ar silffoedd agored ac mae aelod o staff wrth law bob amser i ateb cwestiynau a rhoi cyngor i ymchwilwyr.

Bore prysur yn ystafell chwilio Archifdy Morgannwg.

Cyflawnir hyn gyda thîm o 18 aelod o staff, yn cynnwys 6 archifydd a gwarchodwr. Gellir canfod rhagor o wybodaeth am staff Archifau Morgannwg yn
'Pwy ydym ni?''

Yn ôl i’r brig

 

©Archifau Morgannwg , 2010