empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

 

Ymweliadau grwp

Mae staff Archifau Morgannwg yn barod iawn i gynnal sesiynau i grwpiau ar sut i ddechrau’u gwaith yma yn yr Archifdy.

Bydd cynnwys eich ymweliad wedi’i lunio i ddiwallu anghenion eich grwp, ond gall gynnwys..

...cyflwyniad i weithdrefnau Archifau Morgannwg

...cyflwyniad i’r systemau a’r catalogau yn ein hystafell chwilio

...cipolwg ar ein gwaith cefndirol

...gwybodaeth am sut i drin cofnodion gwreiddiol, a sut i ofalu am unrhyw ddeunyddiau archifol sydd gennych chi yn eich cartref

...cyfle i edrych ar ddogfennau o’r Casgliad sy’n berthnasol i’ch ardal neu’ch pwnc diddordeb chi

...cyfle i ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor

Felly os ydych chi’n swyddog mewn cymdeithas leol, neu’n diwtor ar ddosbarth hanes lleol neu hanes teuluol yn ardal Morgannwg, beth am gysylltu â ni a threfnu ymweliad?


 

 

 

 

©Archifau Morgannwg, 2010