Hanes TGAU: Y Chwyldro yn Rwsia 1905-1924.

Gall cofnodion Archif Ymchwil Hughesovka fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o ddeunydd ar gyfer Maes Llafur A Hanes TGAU, Astudiaeth Fanwl 5, Chwyldro yn Rwsia. Maen nhw’n ddefnyddiol iawn o safbwynt ymarfer dehongli ffynonellau, dyfynnu gwybodaeth a gwerthuso tystiolaeth.

Aeth John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful, i wastatir De’r Wcráin (rhan o Ymerodraeth Rwsia bryd hynny) yn ystod y 1870au. Yno, fe sefydlodd safle diwydiannol mawr a datblygodd tref o’i gwmpas, sef Hughesovka. Daeth llawer o’r gweithwyr medrus o Gymru a gweddill y DU. Ymgartrefodd rhai yno a mudodd eu teuluoedd yno i fyw. Bellach mae cofnodion yn ymwneud â Hughesovka ar gael yn Archif Ymchwil Hughesovka yn Archifdy Morgannwg.

View of HughesovkaA Llun o’r gwaith yn Hughesovka, tua 1912

Gyda chymorth rhai o’r cofnodion, rydyn ni wedi datblygu dau adnodd ar gyfer yr ystafell ddosbarth:

Adnodd 1 : Rwsia o dan y Tsar: natur a strwythur cymdeithas yn Rwsia yn ôl sylwadau athrawes o Gymru.

Mae sylwadau craff athrawes o Gymru a aeth i Rwsia i addysgu yn ystod y 1890au’n rhoi darlun diddorol o’r gymdeithas yn Rwsia yn y degawd cyn chwyldro 1905.

Adnodd 2: Blynyddoedd olaf Lenin: Cyflwr economaidd a chymdeithasol Rwsia ym 1921, a bywyd o dan y drefn gomiwnyddol, trwy lygaid merch o Brydain yn tyfu i fyny yn Rwsia.

Mae dyfyniadau o’r disgrifiad hynod ddiddorol o blentyndod yn Rwsia ar ôl y chwyldro’n bortread byw o’r amodau cymdeithasol ac economaidd ar y pryd.

Gallwch ddefnyddio’r adnoddau ar fwrdd gwyn electronig, neu eu lawrlwytho fel PDF i’w defnyddio fel taflenni gwaith traddodiadol.

Gallwch ddefnyddio delweddau (neu unrhyw ddelweddau o’r wefan hon) i greu eich adnoddau eich hunain ar gyfer yr ystafell ddosbarth, neu at ddiben addysgiadol arall yn yr ysgol. Os ydych am eu defnyddio at unrhyw ddiben arall, cysylltwch ag Archifdy Morgannwg.

Neu beth am fynd i Archifdy Morgannwg i edrych ar y cofnodion eich hunan? Mae croeso i athrawon gysylltu â ni.

Yn ôl i Hafan Hughesovka