Mae’r cofnodion yn Archif Ymchwil Hughesovka yn rhoi deunydd gwreiddiol
defnyddiol iawn ar gyfer astudio’r thema 'Mudo ac Ymfudo'.
Aeth John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful, i wastatir de’r Wcráin (oedd
bryd hynny’n rhan o Ymerodraeth Rwsia yn y 1870au. Yma, fe sefydlodd waith
haearn a safle diwydiannol mawr a datblygodd tref o’i gwmpas sef Hughesovka

Llun o weithfeydd Hughesovka, 1912
Rhwng 1870 a 1917, aeth nifer o weithwyr medrus o Brydain a llawer o Gymry’n eu plith i weithio mewn swyddi technegol neu fel rheolwyr. Aeth llawer â’u teuluoedd gyda nhw, a sefydlwyd cymuned alltud lewyrchus yno. Mwy am Hughesovka

Rhan o dref Hughesovka
Gyda chymorth rhai o gofnodion Archif Ymchwil Hughesovka, rydym wedi creu dau adnodd ystafell ddosbarth ar gyfer:
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes y mudo a’r ymfudo
- Datblygu sgiliau ymchwilio hanesyddol, yn enwedig dehongli a gwerthuso dogfennau gwreiddiol
- Cyfle i ymarfer dyfynnu a chofnodi gwybodaeth
Adnodd 1: Pam Ymfudo? Mae nifer o ddogfennau gwreiddiol yn egluro’r rhesymau y penderfynodd gwahanol bobl fynd i Hughesovka
Adnodd 2: Ymfudwyr newydd a theuluoedd sefydledig. Mae teimladau pobl sydd newydd gyrraedd yn cael eu datgelu yn yr hyn y maen nhw’n ei ysgrifennu ac yn bur wahanol i brofiadau’r rhai sy’n tyfu i fyny yno.
Dysgu Blaenorol
Rhagdybir bod y disgyblion eisoes yn deall ychydig ynglŷn ag ymfudo, yn gyffredinol ac yn hanesyddol. Bydd hefyd o gymorth (ond nid yn hanfodol) pe baent yn gwybod rhywbeth am stori Hughesovka – bydd edrych ar brif dudalennau gwe Hughesovka yn rhoi’r wybodaeth gefndir angenrheidiol.
Defnyddio’r Adnoddau
Gellir defnyddio’r adnoddau fel gweithgaredd i’r dosbarth cyfan, neu ar fwrdd
gwyn electronig, neu eu lawrlwytho fel ffeiliau PDF i’w defnyddio fel taflenni
gwaith traddodiadol.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r delweddau (neu unrhyw ddelwedau o’r wefan hon)
i greu eich adnoddau ystafell ddosbarth eich hun, neu at unrhyw ddibenion
addysgiadol yn yr ysgol. Os ydych am eu defnyddio at unrhyw ddiben arall,
cysylltwch ag Archifdy Morgannwg
i edrych ar y cofnodion eich hun. Mae croeso i athrawon gysylltu â ni.
Or why not visit the Glamorgan Record Office to look at the records yourself? We welcome contacts with teachers.
