Hanes CA3: Adnodd Ymfudo 1

Pam oedd pobl yn ymfudo?

Pam oedd pobl yn ymfudo?

Allwch chi feddwl am dri rheswm posibl?
Gall cofnodion hanesyddol roi rhai cliwiau i ni.

Dyma Hughesovka, gweithfeydd haearn a dur yn yr Wcráin fel yr oedd yn 1912.

General view of Hughesovka, about 1912

Sefydlwyd y gwaith yn yr 1870au gan y Cymro, John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful. Aeth llawer o weithwyr medrus o Gymru a rhannau eraill o Brydain i Hughesovka i weithio. Aeth llawer ohonynt â’u teuluoedd gyda nhw, ac ymgartrefu yno am sawl blwyddyn.

Ym 1917, ar ôl cychwyn y Chwyldro yn Rwsia, gadawodd yr holl deuluoedd Hughesovka bron a dychwelyd i’r DU. Ailenwyd Hughesovka yn Donetsk, ac mae’n dal yn ganolfan ddiwydiannol bwysig hyd heddiw

Ffynhonnell 1

Aeth Rees Richards i Hughesovka gyda’i wraig a’i blant tua 1888. Gadawodd Ferthyr Tydfil lle’r oedd yn gweithio yng Ngweithfeydd Haearn Dowlais yn ôl pob tebyg. Yn Hughesovka, gweithiodd yn adran y ffwrnais chwyth. Ym mis Mai 1889, ysgrifennodd air at ei ffrind yn Nowlais. Ar ddiwedd y llythyr, ysgrifennodd,

"Write back, any news will be acceptable from you. I am glad to see that trade is looking up in the old country at last"

Cwestiynau

  1. Beth ydych chi’n feddwl y mae Rees Richards yn ei olygu gyda’r geiriau ‘old country’?
  2. Beth mae e’n ei olygu pan mae’n dweud 'trade is looking up…at last'
  3. Allwch chi awgrymu pam efallai i Rees ymfudo i Hughesovka?

Ffynhonnell 2

Annie Gwen Jones and her pupils and their father


Aeth Annie Gwen Jones i Hughesovka ym 1889. Hi oedd tiwtor wyresau John Hughes. Mae llun ohoni yn y ffotograff hwn, yn sefyll ar y dde, gyda’r merched a’u tad.

Flynyddoedd yn ddiweddarach ysgrifennodd am ei hamser yn Hughesovka. Ysgrifennodd fod

"the varied interests of the strange life around me and the natural desire and curiosity to see everything new helped me to feel at home in Hughesovka."

Mae hi hefyd yn sôn am ddyn o Lansamlet

"who remembers discussions going on in his family as to whether they would go to Russia...Talk of these emigrants was frequent in their house because an uncle - engineer in the Swansea district - wanted to be of the party."

Cwestiynau

  1. Yn eich geiriau chi, eglurwch beth sy’n helpu Annie Gwen Jones i gyfarwyddo â bywyd yn Hughesovka.
  2. Sut ydych chi’n meddwl roedd teulu Llansamlet yn teimlo (yn enwedig yr ewythr) am y syniad o fynd i Hughesovka? Pam ydych chi’n meddwl hyn?
  3. Ydych chi’n gallu awgrymu pam yr oedd Annie Gwen Jones a theulu Llansamlet hefyd eisiau mynd i Hughesovka?

Ffynhonnell 3

Cartwright family and driver in carriage

Dyma ffotograff o Percy Cartwright a’i wraig Gwladys yn eu coets, gyda’u gyrrwr. Cemegydd oedd Percy yn y labordy yng ngweithfeydd Hughesovka. Ar gefn y llun, ysgrifennodd Gwladys

"Our next conveyance will have to be a new sledge"

A dyma ddarn arall o lythyr Rees Richard

"1 shilling here will go as far as two shillings and sixpence there [in Wales]...Fancy, lamb for 3 pence per pound, mutton and beef 2 pence per pound"

Cwestiynau

  1. 1. Pa fath o fywyd ydych chi’n meddwl oedd bywyd y Cartwrights yn Hughesovka?
  2. 2. Beth mae Rees Richards yn ei ddweud am arian a phrisiau yn yr Wcráin o gymharu â Chymru?
  3. 3. Yng ngoleuni’r ddwy ffynhonnell hon, allwch chi awgrymu rheswm arall i egluro pam y byddai pobl yn ymfudo?

Crynodeb

Mae yna sawl rheswm pam y byddai pobl eisiau ymfudo. Mae gan wahanol bobl wahanol resymau. Efallai fod gan rai pobl sawl rheswm, a dim ond un gan eraill.

Ydych chi’n gallu llenwi’r bylchau yn y frawddeg hon?

O’r ffynonellau hanesyddol, rydyn ni wedi dysgu bod pobl weithiau’n ymfudo am nad oedd digon o _______ gartref, oherwydd eu bod yn ____________ gyda’r syniad o weld llefydd newydd, neu am eu bod yn gobeithio cael gwell __________ __ _____________.