Teuluoedd Prydeinig Hughesovka

Pan oedd Hughes yn sefydlu’r gwaith haearn, roedd angen gweithwyr medrus arno a chyflogodd lawer ohonynt o Gymru. Dim ond am rai blynyddoedd yr arhosodd rhai, ond ymgartrefodd eraill yn Hughesovka gan ddod â’u gwragedd a’u teuluoedd gyda nhw. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio ac er bod y cwmni’n hyfforddi gweithlu o Rwsia, parhaodd hefyd i gyflogi gweithwyr medrus o’r Deyrnas Unedig. Sefydlwyd cymuned alltud lewyrchus gydag ysgol i blant o Brydain, eglwys Anglicanaidd a chlwb Saesneg.

Photograph of teachers and pupils at the English school in Hughesovka

Athrawon a disgyblion yn yr ysgol Saesneg, 1911. Leeza Wiskin, athrawes Saesneg sy’n sefyll yn y cefn ar y chwith.

Arhosodd rhai teuluoedd yn Hughesovka am sawl cenhedlaeth, a’u plant yn priodi ac yn magu eu teuluoedd eu hunain yn y gymuned glos yno.

Wedding photograph

Ffotograff o briodas Elizabeth Mary James a Charles Henry Perry, yn Odessa, 1894. Ganwyd y briodferch yn Hughesovka i rieni o Gymru, ac ymfudodd y priodfab i Rwsia gyda’i deulu pan oedd yn blentyn. Magodd Elizabeth a Charles 10 o blant, i gyd wedi eu geni yn yr Wcráin.

Roedd bywyd yn galed ar adegau, y gaeafau’n oer iawn a’r hafau’n llethol a phroblemau iechyd fel colera a theiffws, ond yn gyffredinol roedd gan y teuluoedd Prydeinig safonau byw da.

Photograph of Cartwright family in carriage

Ffotograff o Percy a Gwladys Cartwright yn eu coets, 1913. Ar gefn y llun ysgrifennodd Gwladys 'Nid yw André wedi cael ei ffedog ledr hyd yn hyn, felly nid yw’n edrych yn drwsiadus. Sled newydd fydd ein cerbyd newydd nesaf, a hynny o reidrwydd’.

Ym 1896, roedd 22 o deuluoedd o Gymru yn byw yn Hughesovka. Dyma restr ohonynt

Athrawon - rhowch gynnig ar ein hadnoddau Hanes
Cyfnod Allweddol 3
a TGAU