Dechreuodd Archifdy Morgannwg gasglu dogfennau a gwybodaeth am Hughesovka ym 1984, pan dderbyniodd y swyddfa rai papurau a ffotograffau teuluol yn ymwneud â’r gymuned gan ddisgynnydd un o’r bobl a fu’n byw yno.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, ychwanegwyd mwy o ddeunydd, wrth i’r Archifdy
wneud ymchwil i hanes Hughesovka a rhoi cyhoeddusrwydd i’r casgliad. Cysylltwyd
â disgynyddion John Hughes, a theuluoedd eraill o Hughesovka.
Ym 1990, ymwelodd criw o ddisgynyddion teulu Hughes a theuluoedd eraill
o Hughesovka â Donetsk. Aeth Susan Edwards, archifydd yn Archifdy Morgannwg
gyda nhw ac aeth ati i ymchwilio ymhellach yn Donetsk.

Adfeilion cartref teulu’r Hughes, tynnwyd
y llun gan
Susan Edwards ym 1991
Ym 1991, ar y cyd ag Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, cynhyrchodd yr Archifdy arddangosfa fawr ar Hughesovka. Ar yr un pryd, darlledwyd ffilm ar Hughesovka/Donetsk, lle defnyddiwyd rhai o gofnodion Archifdy Morgannwg, ar S4C a BBC2. O ganlyniad i’r arddangosfa a’r ffilm, a chyhoeddusrwydd pellach, derbyniodd yr archifdy fwy o ddeunydd.

Arddangosfa Hughesovka sydd i’w gweld yn Amgueddfa Donetsk, 1992
Gan ddefnyddio deunydd o’r casgliad, ysgrifennodd Susan Edwards lyfr o’r enw Hughesovka. A Welsh Enterprise in Imperial Russia a gyhoeddwyd gan yr Archifdy yn 1992. Yn ystod gwanwyn y flwyddyn honno, gyda chymorth Cymrodoriaeth Teithio Churchill, bu modd iddi deithio i Rwsia a’r Wcráin i wneud ymchwil pellach. Aeth â 24 bwrdd arddangos gyda hi – fersiwn Rwsieg o arddangosfa Hughesovka, a fu’n arddangos mewn sawl lleoliad yn yr Wcráin.
Mae copïau o Hughesovka. A Welsh Enterprise in Imperial Russia ar gael gan Archifdy Morgannwg, pris £1.00 (+ p & p)
