Archif Ymchwil Hughesovka

Mae Archif Ymchwil Hughesovka yn gasgliad o ddeunydd a gasglwyd o nifer o ffynonellau sydd i gyd yn perthyn i un thema. Mae’n cynnwys papurau a ffotograffau a gyflwynwyd gan ddisgynyddion teuluoedd o Hughesovka, copïau o ddeunydd a dderbyniwyd gan yr Archifdy, a deunydd sy’n ymwneud â gweithgareddau’r Archifdy sy’n gysylltiedig â Hughesovka.

Postcard showing Hughesovka collieries
Anfonwyd cerdyn post gan William Jones at ei deulu yn dangos tair glofa’r New Russia Company, 1907

Mae’r casgliad yn dangos llwyddiannau un o’r ymfudwyr o Gymru hynod fedrus a fu wrthi’n sefydlu a datblygu diwydiannau ymhob cwr o’r byd. Mae’n gymharydd defnyddiol â mentrau tramor o Gymru eraill – y wladfa ym Mhatagonia er enghraifft – ac yn arwydd o gryfder mentergarwch diwydiannol o Gymru.

View of works, early twentieth century
Darlun o’r gweithfeydd yn Hughesovka, ddechrau’r ugeinfed ganrif

Prif gryfder y casgliad yw’r hyn a ddadlennir am aelodau’r gymuned alltud yn Hughesovka, ond mae hefyd yn cynnwys deunydd sy’n ymwneud â gyrfa John Hughes, y New Russia Company a’r gweithfeydd, yn ogystal â pheth gwybodaeth dechnegol. Mae’r deunydd ffotograffig yn gadarn tu hwnt, gyda llawer o ffotograffau o’r dre a’r gweithfeydd, ac o deuluoedd Prydeinig. Mae hefyd yn cynnwys nifer o ffotograffau o Donetsk fel y mae heddiw.

Gallwch weld Tabl Cynnwys catalog Archif Ymchwil Hughesovka (fel PDF). Sylwch mai dim ond y prif benawdau a welir yn y tabl. Mae’r catalog cyflawn ar gael yn ystafell chwilio Archifdy Morgannwg

Athrawon – ewch i’n hadnoddau ar gyfer Hanes CA 3 and TGAU