Aeth John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful i Ymerodraeth Rwsia yn ystod y 1870au. Ar wastatiroedd eang a moel y steppes yn ne’r Wcráin sefydlodd waith haearn a’i ddatblygu’n safle diwydiannol anferth. O gwmpas y gweithfeydd tyfodd tref o’r enw Hughesovka. .More about John Hughes
A
Llun o weithfeydd Hughesovka, 1912
David Waters, yn wreiddiol o Abertawe, a’i blant – pob un ohonynt wedi’u
geni yn Hughesovka
Daeth y mwyafrif o staff technegol a pheirianyddol y gweithfeydd o Brydain - a llawer ohonynt o Gymru. Mudodd teuluoedd llawer ohonynt i Hughesovka, ac arhosodd rhai yno am flynyddoedd, gan sefydlu cymuned alltud lewyrchus. More about British families at Hughesovka
Yna, ym 1917 daeth y chwyldro i Rwsia. Gadawodd y rhan fwyaf o’r teuluoedd Prydeinig Hughesovka a dychwelyd adref .Meddiannwyd y gweithfeydd gan y wladwriaeth ac ailenwyd Hughesovka yn Stalino, ac wedyn Donetsk. Mae’n dal yn ganolfan ddiwydiannol fawr, un o’r pwysicaf yn y rhanbarth
View
of Donetsk, 1991
Mae Archifdy Morgannwg wedi casglu nifer o gofnodion sy’n ymwneud â Hughesovka yn Archif Ymchwil Hughesovka . Mae’n cynnwys deunydd sy’n ymwneud â John Hughes a’i deulu, y gwaith a’r dref, a theuluoedd o Brydain a oedd yn byw yno, a mwy - ac yn cynnwys cannoedd o ffotograffau diddorol. Mae’r casgliad yn dangos cyflawniadau un o’r ymfudwyr medrus iawn o Gymru a sefydlodd ac a ddatblygodd ddiwydiannu ym mhedwar ban byd.
