John
Hughes
Ganwyd John Hughes ym Merthyr Tudful tua 1815. Roedd yn fab i beiriannydd yng Ngwaith Haearn Cyfarthfa a dechreuodd ar ei yrfa yng Nghyfarthfa cyn symud i weithfeydd Glyn Ebwy ac yna i Weithfeydd Peirianyddol Brynbuga yng Nghasnewydd.
Erbyn canol y 1860au, roedd John Hughes yn aelod o Fwrdd Cwmni Peirianyddol ac Adeiladwyr Llongau Millwall yn Llundain, ac yn beiriannydd byd enwog.
Memorandwm
Sefydlu’r New Russia Company Cyf., 1869.
Fersiwn Fwy
Daeth Hughes i sylw Llywodraeth Ymerodraeth Rwsia a oedd yn awyddus i ddatblygu ei diwydiannau peirianyddol trwm a’i rheilffyrdd. Ym 1868, derbyniodd gonsesiwn gan y llywodraeth a phrynodd dir a hawliau mwynol yn y Donbass (de Rwsia bryd hynny, bellach yr Wcráin).
I ariannu ei brosiect, ym 1869 sefydlodd Hughes y New Russia Company Cyf., gyda chyfalaf o £300,000. Ym 1870 teithiodd i’r Wcráin i sefydlu’r gweithfeydd ar y gwastatir eang.
Roedd John Hughes wedi priodi Elizabeth Lewis o Gasnewydd ym 1844, a chawsant 8 o blant. Mudodd Elizabeth ynghyd â rhai o’r plant gyda John i Rwsia ac ymgartrefodd y teulu yno. Roedd pedwar o’r meibion - John James, Arthur David, Ivor Edward ac Albert Llewellyn - ynghlwm wrth redeg y gwaith. Pan fu farw John Hughes yn St. Petersburg ym 1889, rhannodd y meibion y cyfrifoldeb o redeg y busnes
Tŷ teulu’r Hughes yn Hughesovka
