Sut ydych chi’n meddwl y mae pobl yn teimlo i ddechrau pan fyddan nhw’n ymfudo i wlad newydd? A sut ydych chi’n meddwl y mae teuluoedd yn teimlo pan fyddan nhw wedi ymgartrefu mewn gwlad wahanol dros gyfnod o amser?
Gall cofnodion hanesyddol roi rhai cliwiau i’n helpu i ateb y cwestiynau hyn.
Dyma lun o’r dref a’r gweithfeydd yn Hughesovka, fel yr oedd tua 1912. Roedd Hughesovka yn yr Wcráin oedd bryd hynny’n rhan o Ymerodraeth Rwsia.

Yn yr 1870au, aeth John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful i’r Wcráin i sefydlu gweithfeydd haearn a safle diwydiannol ar y gwastatir moel. Tyfodd y gwaith i fod y mwyaf yn Ymerodraeth Rwsia a datblygodd tref lewyrchus o gwmpas y gwaith.
Aeth llawer o weithwyr medrus o Gymru ac o weddill Prydain i Hughesovka
i weithio. Aeth llawer ohonynt â’u teuluoedd gyda nhw ac ymgartrefu yno
am nifer o flynyddoedd. Ond ym 1917, ar ôl cychwyn y Chwyldro yn Rwsia,
gadawodd bron bob teulu Hughesovka a dychwelyd i’r DU. Ailenwyd y gweithfeydd
a’r dre yn Donetsk. Mae’n dal yn ganolfan ddiwydiannol bwysig hyd heddiw.
Ffynhonnell 1
Aeth ymfudwr newydd, Lewis Roberts, i Hughesovka ym 1898. Yn fuan ar ôl cyrraedd, ysgrifennodd lythyr at gyfaill yn sôn am y daith hir ac anodd, ei lety a’i argraffiadau cyntaf o Hughesovka. Dyma rai dyfyniadau o’i lythyr:


What a monotonous business it is, travelling through Russia. This is by far the worst portion of the journey……..I don’t care for this place [his lodgings] very much, and am looking out for a fresh abode. It is needless me telling you that this is easier said than done”


“Have not yet started with this diabolical language yet, had arranged to take lessons with Falkert, but he finds now that he cannot take me, so am hunting for a tutor as well as digs. Have come into contact with most of the British folks here, there are a few however that I don’t know. I think that in time I shall get on all right, at any rate I hope so. It is a place where you have to make your own diversion."
Atebwch y cwestiynau canlynol:
- Nodwch dri pheth oedd yn gwneud Lewis Roberts yn anhapus
- O’r llythyr hwn, beth allwch chi ddweud am y gymuned Brydeinig yn Hughesovka?
- Sut ydych chi’n meddwl y mae Lewis yn teimlo pan ysgrifennodd e’r llythyr hwn?
Ffynhonnell 2
Ganwyd Elizabeth Wiskin (a alwyd yn Leeza) yn Hughesovka ym 1886. Roedd yn perthyn i deulu oedd wedi ymgartrefu yn Hughesovka ers blynyddoedd. Roedd ei thad, George Alfred Wiskin, wedi mynd i Rwsia gyda’i rieni a’i frodyr a’i chwiorydd pan oedd yn blentyn bach. Rwsiad oedd ei mam. Bu farw’r fam pan oedd Leeza’n dair blwydd oed, ac aeth Leeza i fyw gyda pherthnasau teulu Wiskin.
Pan oedd Leeza’n tyfu i fyny, roedd yn athrawes yn yr ysgol Saesneg yn Hughesovka hyd nes y dychwelodd i Loegr gyda llawer o’r teulu Wiskin ym 1917. Ar ôl dychwelyd, priododd Leeza Josiah Thomas, Cymro fu hefyd yn byw yn Hughesovka tan 1917, gan ymgartrefu yng Nghaerdydd yn fwy diweddar.
Tua 1950, recordiodd Leeza sgwrs radio i ysgolion yn disgrifio ei phlentyndod yn Rwsia. Dyma rai dyfyniadau o drawsysgrif o’r sgwrs:"I was born in Russia where the snow is deep and crisp all the winter….Today many of us have refrigerators in our kitchens but in Russia we stored blocks of ice in our cellars. I remember the rides I used to have on the great blocks of ice as horses dragged them through the snow to peoples’ cellars…..
I enjoyed my childhood in Russia, even though I had to go to school as you do. We had several schools in Hughesovka, one was for English children, and here we learned Arithmetic and English but Russian and French as well. I was lucky, I could speak Russian from babyhood but I did have to learn English. I went to one of the Russian schools for years.
Our summer holidays lasted 3 months, and oh! the picnics I can remember. We rode out gaily in huge haycarts, our picnic lunch following, not in a basket but in another haycart….
Another picture which remains clearly in my mind is of the eggs we exchanged with our friends at Easter. We hard boiled dozens and coloured them all colours – red, blue, yellow and purple."
Atebwch y cwestiynau canlynol:
- Ysgrifennwch dri pheth y gallwn ni eu dysgu am fywyd yn Hughesovka o sgwrs radio Leeza Wiskin.
- Pam ydych chi’n meddwl oedd Leeza’n gallu siarad Rwsieg? Awgrymwch ddau reswm.
- O’r sgwrs radio a’r llun, pa argraff gawn ni o fywyd y gymuned Brydeinig a sefydlodd yn Hughesovka?
- Ydych chi’n credu bod yr argraff hon o fywyd yn Hughesovka yn dweud y stori i gyd? Rhowch eich rhesymau
Crynodeb
Llenwch y bylchau
Gall bywyd mewn gwlad newydd fod yn anodd i ddechrau. Gall ymfudwyr newydd gael anhawster i ddod o hyd i __________________, ac wrth ddysgu’r _____________. Ond ar ôl blwyddyn neu ddwy, mae teuluoedd yn addasu i________________, yn dysgu ____________ a ____________ y wlad, ac yn ___________ byw yno.
