Dychwelyd i’r DU ym 1917

Ym 1917, roedd Ewrop gyfan yn rhyfela. Ym mis Chwefror y flwyddyn honno, cododd pobl Rwsia yn erbyn y Czar. Yn ystod y flwyddyn, sylweddolodd y teuluoedd Prydeinig yn Hughesovka fod y sefyllfa’n ddifrifol, ac y dylent adael. Ond oherwydd y rhyfel, doedden nhw ddim yn gallu defnyddio’r llwybrau teithio arferol, dros y tir a thrwy Ewrop neu ar y môr o’r Môr Du drwy Fôr y Canoldir.

Roedd Mavis Calderwood (fe’i gwelir yn y llun gyda’i brawd) yn byw yn Hughesovka ar y pryd. Roedd hi’n saith mlwydd oed ac yn ferch i’r prif beiriannydd. Mewn cyfweliad llafar hanesyddol ar ddechrau’r 1990au, adroddodd am brofiadau dramatig taith ei theulu adref drwy gynnwrf y Chwyldro yn Rwsia a berw’r rhyfel yn Ewrop.

Mavis Calderwood and her brother as young children in a snow-covered garden

Dwedodd Mavis eu bod, ar ddiwedd mis Gorffennaf 1917, fel teulu – hi a’i rhieni, ei brawd hŷn, ei chwaer bedair blwydd oed a’i brawd oedd yn fabi bach - wedi gadael Hughesovka. Fe deithion nhw am 9 diwrnod ar drên o dde’r Wcráin tua’r Gogledd ar draws Rwsia i St Petersburg, oedd wedi’i ailenwi yn Petrograd erbyn hynny. Fe dreulion nhw’r daith gyfan yng nghoridor y trên – dim ond milwyr oedd yn cael defnyddio’r cerbydau.

Arhosodd y teulu yn Petrograd am dair wythnos, yn aros am y papurau a fyddai’n caniatáu iddyn nhw adael y wlad. Dygwyd eu harian, roedd eu cyflenwad bwyd bron ar ben ac roedd y babi’n sâl iawn gyda broncitis. Roedd pobl y chwyldro’n tanio gynau’n ddi-baid ar y strydoedd.


	Timetable for journey from Petrograd to England
Amserlen y daith o Petrograd i Loegr, gydag arwyddion i deithwyr

Gweler fersiwn fwy o’r amserlen

Eventually, at three o'clock one morning the police came with their papers, and told them to be on the train at Finland Station within the hour. They travelled by train through Finland, Sweden and Norway, arriving at Voss in Norway at the beginning of September.

Map on reverse of timetable Map of journey from Petrograd to England, on reverse of timetable

See larger version of map

Fe dreulion nhw bythefnos yn Voss, ac yna hwylio ar un o ddwy long wartheg a gafodd eu haddasu yn Bergen. Roedd y Llynges Frenhinol yno i’w hebrwng ar draws Môr y Gogledd, ond suddodd U-fad Almaenig un o’r Llongau. Roedd Mavis a’i theulu ar y llong arall, ac fe lwyddon nhw i gyrraedd Aberdeen yn ddiogel ar 17 Medi 1917. Cariwyd ei mam oddi ar y llong ar stretsier, a dim ond hanner coron oedd ar ôl gan y teulu.

Athrawon - rhowch gynnig ar ein hadnoddau Hanes
Cyfnod Allweddol 3
a TGAU