Sefydlodd John Hughes ei weithfeydd ar wastatiroedd moel ac eang yn ne’r Wcráin, oedd bryd hynny’n rhan o Ymerodraeth Rwsia. Roedd yr ardal yn gyfoethog o ran glo a dyddodion mwyn haearn, ond yn lle ynysig heb ddim datblygiadau diwydiannol. Roedd yn rhaid i Hughes ddechrau o’r dechrau ym 1870, ond erbyn dechrau 1872 roedd y ffwrnais chwyth gyntaf wrthi’n cynhyrchu haearn ac erbyn mis Medi 1873 roedd cledrau haearn yn cael eu cynhyrchu yno.

Golygfa gyffredinol o Hughesovka, a gymerwyd cyn 1887
Codwyd mwy o ffwrneisi chwyth wrth i’r gweithfeydd ddatblygu ac adeiladwyd ffwrneisi tân agored yn yr 1880au i gynhyrchu dur. Erbyn diwedd y 1890au, dyma oedd gweithfeydd mwyaf Ymerodraeth Rwsia, gydag 8,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi ym 1896 a 12,000 ym 1904.
Ffwrneisi
chwyth, ar ôl 1892
Sefydlodd Hughes y gweithfeydd fel safle diwydiannol hunangynhaliol. Roedd y deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu haearn a dur yn dod o lofeydd, gweithfeydd mwyn haearn a chwareli calchfaen y cwmni; sefydlwyd gweithfeydd brics i gyflenwi deunyddiau adeiladu; siopau atgyweirio a labordai cemegol i wasanaethu’r fenter

Llun o un o’r glofeydd. Erbyn 1907, roedd 14 glofa
Ym 1919, meddiannwyd y gweithfeydd gan y wladwriaeth. Parhaodd i weithio ac mae’r ardal yn dal yn ganolfan ddiwydiannol fawr hyd heddiw
Athrawon - rhowch gynnig ar ein hadnoddau Hanes
Cyfnod Allweddol 3 a TGAU
