| Diwrnodau
Cynefino ar gyfer Athrawon Cynradd ac Uwchradd
Mae’r Archifdy yn cynnal a chymryd rhan mewn
diwrnodau cynefino sydd wedi’u trefnu gan wasanaethau
addysg awdurdodau lleol a gwasanaethau cynghori fel
y Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion. Caiff y dyddiau
hyn eu hariannu gan Gyrfa Cymru a’r Bartneriaeth
Busnes Addysg. Rydym yn canolbwyntio ar bynciau’r
Cwricwlwm Cenedlaethol y mae deunyddiau’r Archifdy
yn gallu eu cefnogi fel mapiau, ffurflenni cyfrifiad,
cofnodion ysgolion, a ffynonellau lleol o wybodaeth
ar gyfer prosiectau ar oes Fictoria a’r Ail
Ryfel Byd.
Lleoliadau
Gwaith Athrawon
Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau gwaith i athrawon
lleol sydd eisiau profiad o amgylchedd gwaith y tu
hwnt i’r ystafell ddosbarth. Efallai y byddech
yn hoffi cyfnod estynedig o amser i ffwrdd o’r
ysgol i gyflawni gwaith ymchwil, datblygu cynlluniau
gwaith a phecynnau adnoddau ar gyfer dysgu. Gellir
trefnu’r rhain gydag arian gan Gyngor Addysgu
Cyffredinol Cymru (GTCW/CymACC) i ddarparu athro llanw
yn yr ysgol. Cysylltwch â ni os oes gennych
ddiddordeb. Nid oes cost am y gwasanaeth hwn, ond
rydym yn gofyn i chi rannu unrhyw becynnau adnoddau
yr ydych yn eu cynhyrchu gyda ni.
Adnoddau
Athrawon
Caerdydd: Hanes Adeiladu Prifddinas - Gwybodaeth,
ffacsimilïau o ddogfennau a thaflenni gwaith
ar gyfer disgyblion CA2
Archif
Ymchwil Hughesovka
– Gwybodaeth, ffacsimilïau o ddogfennau
a thaflenni gwaith ar gyfer disgyblion Hanes CA3 a
Hanes TGAU.
‘Streic’
- CD-Rom ar Derfysgoedd Tonypandy 1910 -11 a Streic
Chwarel y Penrhyn, 1900 - 1903, gan ddefnyddio adnoddau
o Archifau Morgannwg a Gwasanaeth Archifau Gwynedd.
Mae’r CD-Rom ar gyfer disgyblion CA3, CA4, AS
a Safon Uwch, gydag awgrymiadau ar gyfer CA2.
|