Swyddi
gwag-
Traineeships in Conserving Local Communities Heritage
- 3 full-time, fixed term work-based training placements of 12 months to start in January 2012
- Bursary of £12,500 per annum
- Host training placements in Swansea, Tredegar and Cwmbran (travel required to other locations)
Are you interested in your family history or the history of your local area? Do you like working with people? Do you use a computer or a digital camera? Would you like to learn more about these sorts of things? If so, these traineeships could offer you the opportunity to develop these skills and interests through a series of work-based training placements in libraries, archives and museums.
To apply:
Closing date for applications: 5pm on Tuesday 8th November 2011
Os
oes gennych ddiddordeb mewn bod yn archifydd neu’n
warchodwr, neu eisiau treulio rhywfaint o’ch amser
sbâr yn cynorthwyo yn yr Archifdy, beth am i chi drefnu
profiad gwaith neu wirfoddoli gyda ni?
Lleoliadau
Profiad Gwaith
Disgyblion
ysgol, myfyrwyr prifysgol ac athrawon sy’n dod
i’r Archifdy ar leoliadau profiad gwaith fel
arfer.
Mae
lleoliadau profiad gwaith yn gyfle i weld sut beth
yw gweithio mewn archifdy awdurdod lleol. Gallwch
gysgodi gwaith aelodau o staff, gweithio ar ymholiadau
a dysgu am wahanol agweddau ar weithio ym maes archifau,
fel cadw a gwarchod deunyddiau archif, rhestru a mynegeio
cofnodion, ateb ymholiadau gan y cyhoedd a rheoli
cofnodion.
Rydym hefyd yn trefnu lleoliadau ar gyfer athrawon
lleol sydd am gael profiad o amgylchedd gwaith y tu
hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac eisiau cyfnod
estynedig i ffwrdd o’r ysgol i wneud gwaith
ymchwil a datblygu cynlluniau gwaith a phecynnau adnoddau
ar gyfer dysgu. Os oes gennych ddiddordeb, gofynnwch
i wasanaethau gyrfa eich ysgol i gysylltu â
ni, neu cysylltwch â ni eich hun.
|
|
Gwirfoddoli
Os
ydych chi’n gallu gwirfoddoli’n rheolaidd am
ddiwrnod cyfan, bore neu brynhawn bob wythnos, rydym yn
cynnig profiad ymarferol o waith archif neu waith cadw.
Mae gwirfoddolwyr yr Archifdy yn cynnwys myfyrwyr prifysgol
ynghyd â phobl sydd wedi ymddeol sydd ag amser i’w
roi i helpu’r Archifdy, gan ategu gwaith y staff drwy’u
gwybodaeth leol neu sgiliau arbennig. Ar hyn o bryd, mae
ein gwirfoddolwyr yn gweithio ar brosiectau yn cynnwys creu
cronfa ddata electronig o gynlluniau adeiladu Cyngor Dosbarth
Gwledig Caerdydd a mynegeio cofrestri llongau Porthladd
Caerdydd.
Cymerwch gipolwg ar ‘Broffiliau Gwirfoddolwyr'
yn ein cylchlythyron diweddar.
Cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn
dod i’r Archifdy ar brofiad gwaith neu fel gwirfoddolwr
|