empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffennol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

Y Casgliad

Ymchwilio’r Cofnodion

Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas
(Agor mewn ffenestr wahanol)

Archif Ymchwil Hughesovka

(Agor mewn ffenestr wahanol)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Catalog

 


Ar hyn o bryd, mae ein catalog electronig yn cynnwys dros 123,000 o gofnodion, ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda rhagor o fanylion am y casgliadau a’r eitemau yr ydym yn eu cadw, sy’n cynnwys dros 800 mlynedd o hanes Morgannwg.


Chwilio trwy’r Catalog(yn agor mewn ffenestr newydd)

Normally available at the Glamorgan Archives building only; however as Glamorgan Archives’ IT is provided via Cardiff County Council’s server our catalogue can also be accessed through public access computers in Cardiff County libraries. 
We are working to make the catalogue fully accessible on-line.

Noder mai dim ond yn adeilad Archifdy Morgannwg y gellir gweld y catalog hwn ar hyn o bryd, er ein bod yn gweithio i roi fersiwn ohono ar y rhyngrwyd.
Gallwch hefyd chwilio trwy ddisgrifiadau o gasgliadau a gedwir yn Archifdy Morgannwg, yn ogystal â chasgliadau archifdai ac archifau eraill yng Nghymru, ar wefan Archifau Cymru. Os byddwch yn dod o hyd i rywbeth o ddiddordeb, gallwn ddarparu gwybodaeth fanylach ar gais:


Archifau Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd)

 

Chwilio trwy ein Catalog


Defnyddio’r bocs chwilio AnyText

I ddod o hyd i gofnodion sy’n cynnwys gair penodol e.e. parish, teipiwch y gair hwnnw yn y bocs chwilio AnyText a chliciwch y botwm chwilio (“Search”). Noder mai dim ond cofnodion Cymraeg sydd wedi’i catalogio yn y Gymraeg; mae pob eitem arall wedi’i chatalogio yn y Saesneg.

Gallwch hefyd chwilio am gyfres o eiriau neu gymal penodol. Yn gyntaf, teipiwch eich term yn y bocs chwilio AnyText, yna:

  • i ddod o hyd i gofnodion sy’n cynnwys cymal penodol e.e. parish register, dewiswch y botwm Word Options PHRASE cyn clicio’r botwm chwilio
  • i ddod o hyd i gofnodion sy’n cynnwys naill ai’r gair parish neu’r gair register, dewiswch y botwm Word Options OR cyn clicio’r botwm chwilio
  • i ddod o hyd i gofnodion sy’n cynnwys y geiriau parish a register ond mewn unrhyw drefn, dewiswch y botwm Word Options AND cyn clicio’r botwm chwilio.

Cofiwch roi cynnig ar amrywiadau o’ch geiriau chwilio e.e. parish, parishes. Fel arall, defnyddiwch seren (*) i ddynodi nod-chwiliwr a chael mwy o ganlyniadau; er enghraifft:

  • bydd teipio parish* yn dychwelyd cofnodion sy’n cynnwys y geiriau “parish”, “parishes” neu “parishioner”.

Defnyddio Document Reference neu Date

Gallwch ddefnyddio’r meysydd hyn os ydych yn gwybod cyfeirnod y casgliad neu’r eitem yr ydych yn chwilio amdani, neu os ydych yn chwilio am ddeunydd sy’n dyddio o gyfnod penodol.

Gallwch hefyd gyfuno meysydd i greu chwiliad mwy penodol. Er enghraifft, os ydych am ddod o hyd i gofnodion sy’n cynnwys gair penodol ac sy’n dyddio o gyfnod penodol, cwblhewch y maes AnyText a’r maes Date, dewiswch y botwm Field Options AND, ac yna cliciwch y botwm chwilio. Mae defnyddio OR yn eich galluogi i ddod o hyd i gofnodion sy’n cynnwys eich term chwilio neu sy’n dyddio o’r cyfnod dan sylw.

Er y bydd y dull hwn yn culhau eich canlyniadau, hwyrach y byddwch yn methu deunydd perthnasol nad yw’n dod o fewn ffiniau eich meini prawf, felly ceisiwch gadw’ch chwiliad yn eang ar y dechrau.

Canlyniadau Chwilio
Gallwch drefnu canlyniadau eich chwiliad trwy glicio ar bennawd colofn, fel “Date” neu “Title”. Yna, gallwch weld rhagor o wybodaeth am eitem benodol trwy glicio ar “View”. Ar ôl dod o hyd i eitem rydych chi am ei gweld, gallwch lenwi slip archebu dogfen i wneud cais am yr eitem honno.

Methu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano?

Mae’r gwaith o greu’r gronfa ddata yn dal i fynd rhagddo a chaiff ei diweddaru’n rheolaidd i ymgorffori catalogau ychwanegol wrth iddynt gael eu paratoi i’w cynnwys.

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, gofynnwch i aelod o staff am gymorth.           

 

Search Catalogue (opens in new window)

©Archifdau Morgannwg, 2010