Sut cyfrannodd
y dociau at dwf Caerdydd?
Erbyn
1901 roedd bron canwaith cymaint o bobl yn byw yng Nghaerdydd nag oedd
yn byw yno ym 1801, ffigwr ryfeddol. Yn ôl canlyniadau’r
cyfrifiad, 1,870 oedd y nifer o bobl yn byw yng Nghaerdydd ym 1801.
Erbyn 1851 roedd hyn wedi cynyddu i 23,085.
Edrychwch
ar y darn hwn o’r cyfrifiad. Mae’n dangos y rhesymau am
y newidiadau mawr yng Nghaerdydd fel roedd y bobl yn eu gweld ar y pryd.

-
1831.
Roedd pobl yn byw yn Ne Cymru yn cael amser caled iawn. Ffermwyr
tlawd oeddynt, heb lawer o obaith o newid y ffordd roedden nhw’n
byw oni bai eu bod yn symud i Gaerdydd i gael gwaith.
-
1841.
Roedd gwella’r porthladd, y gamlas longau a’r rheilffordd
yn golygu bod llawer mwy o gyfleoedd i gael gwaith.
-
1851.
Agorodd pyllau glo yng Nghwm Aberdâr a oedd yn golygu bod
y porthladd yn mynd yn fwy pwysig fel canolfan fasnachu ar gyfer
glo.
Edrychwch ar fap
Caerdydd o’r 1830au hwyr.

Dechwelyd
i'r top
1. |
Allwch chi weld Camlas Morgannwg? |
|
| 2. |
Allwch chi ddyfalu o ble tarddodd y gamlas? |
|
| 3. |
I ble mae’n arwain? |
|
| 4. |
Allwch chi weld glanfa Haearn Dowlais? |
|
| 5. |
Ydy’r
wybodaeth hon yn eich helpu i ddarganfod o ble mae’r gamlas
yn tarddu? |
|
| 6. |
Ar gyfer beth oedd y gamlas yn cael ei defnyddio? |
|
| 7. |
Fyddai
hyn yn ffordd gyflym o gludo nwyddau? |
|
Agorodd rheilffordd
Dyffryn Taf ym 1841.
Edrychwch eto ar
fap Caerdydd.
Dechwelyd
i'r top
8. |
Allwch chi weld y rheilffordd? |
|
| 9. |
I ble mae’n arwain? |
|
| 10. |
Ar gyfer beth oedd y rheilffordd yn cael ei defnyddio? |
|
| 11. |
Fyddai hyn yn gyflymach na defnyddio’r gamlas? |
|
Ar ben perchen ar
Gastell Caerdydd a thiroedd eraill yng Nghaerdydd, roedd Ardalydd Bute
yn berchen ar dir yng nghymoedd De Cymru.
Edrychwch unwaith
eto ar fap Caerdydd.
12. |
Allwch chi weld Camlas Longau Bute? |
|
| 13. |
Pam ydych chi’n meddwl mai dyma’i henw? |
|
| 14. |
Cymharwch Gamlas Longau Bute â Chamlas Morgannwg. Beth ydych
chi’n gweld? |
|
| 15. |
Ydy hyn yn fanteisiol? |
|
Dechwelyd
i'r top
Nawr cymharwch hyn
â map Caerdydd wedi’i lunio ym 1851.

16. |
Beth ydych chi’n sylwi am y rheilffordd? |
|
| 17. |
Beth mae hyn yn ei olygu, yn eich tyb chi? |
|
| 18. |
Allwch chi weld Camlas Longau Bute? |
|
Dechwelyd
i'r top
Edrychwch ar y diagram,
wedi’i lunio ym 1874.

19. |
Beth mae’n dangos i chi? |
|
| 20. |
Pa effaith fyddai hyn yn cael ar y doc? |
|
| 21. |
Beth fyddai hyn yn ei olygu i Ardalydd Bute, ydych chi’n
meddwl? |
|
Dechwelyd
i'r top
Nawr edrychwch ar
fap yr Arolwg Ordnans o ardal y doc. Fe’i lluniwyd yn y 1870au.

22. |
Os ydych chi’n cymharu’r map â’r un a
luniwyd yn y 1830au, sut mae wedi newid? |
|
| 23. |
Beth ydych chi’n sylwi am yr ardaloedd o gwmpas y gamlas? |
|
Yng nghyfrifiad
1871 cofnodwyd poblogaeth Caerdydd fel 39,5361.
Rhestrwch yr holl
resymau am pam symudodd pobl i Gaerdydd rhwng 1851-1871.
Dechwelyd
i'r top |