Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas

Y Plasty?

Ydych chi erioed wedi sylwi ar y Plasty yng Nghaerdydd?

Mae’r ty mawr yma’n cael ei ddefnyddio gan Faer Caerdydd fel cartref swyddogol. Ond mae rhywbeth anarferol amdano fe.

Edrychwch ar y llun hwn o’r Plasty.

Y Plasty.

1. Beth ydych chi’n sylwi am y drws?  
2. Allwch chi ei esbonio?

 

 

Adeiladwyd y tŷ yma ym 1896 ar gyfer dyn o’r enw James Howell.

3. Ydy’r tŷ yma’n dweud unrhyw beth wrthych chi am Mr Howell?  

Nawr edrychwch ar y darnau hyn o gyfrifiad 1891.
Ym 1891 roedd James Howell a’i deulu’n byw mewn cyfeiriad gwahanol, 21 The Walk.

Enw

Perthynas i bennaeth y cartref

Galwedigaeth

James Howell Head Draper
Fanny Wife  
Thomas Son Barrister Solicitor
Minnie Daughter  
Lilian Daughter  
James Son Draper's Assistant
Fanny Daughter  
Mabel Daughter  
John Son  
Mary Daughter  
Harold Son  
Arthur Son  
Fred Son  
Hannah Rees Servant Cook
Mary Harris Servant Housemaid
Elizabeth Evans Servant Parlourmaid
Mary Richards Servant General Servant
Mary Hitching Servant Nurse

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4. Beth yw swydd Mr Howell?  
5. Ydy’r ffaith bod Howell yn bwriadu adeiladu tŷ newydd yn rhoi unrhyw wybodaeth i chi am ei swydd?  
6. Sawl plentyn sydd gyda fe?  
7. Sawl gwas neu forwyn sydd gyda fe?  
8. Faint o bobl sy’n byw yn 21 The Walk i gyd?  

 

Nawr edrychwch ar gynllun y Plasty.

Cynllun y Plasty.

 

9. Os ydych chi’n cymharu’r cynllun â’r ffotograff, beth ydych chi’n sylwi?  

Cynllun y Plasty.

10. Faint o risiau sydd yno?  
11. Beth ydych chi’n meddwl yw’r rheswm dros hyn?  
12. Sawl ystafell wely allwch chi eu cyfrif?  
13. Cymharwch nifer yr ystafelloedd gwely â nifer y plant.  

 

 

 

 

 

 

Edrychwch ar ffotograff y tŷ unwaith eto.

14. Ble byddai’r gweision yn cysgu, yn eich tyb chi?

 

 

 

Perchennog siop fawr Howells oedd James Howell, dyn busnes clyfar iawn.
Cynlluniodd e fod y tŷ mawr, wedi’i adeiladu iddo fe a’i deulu, yn gallu cael ei droi’n gartrefi llai o faint. Ar ôl iddo farw, gallai’r plant fyw naill ai yn y tai llai neu eu gwerthu’n haws.

Edrychwch ar gynllun llawr gwaelod y tŷ.

Cynllun y Plasty.

15. Sut byddech chi’r troi’r tŷ yn ddau?  

 

 

Cynlluniodd James Howell fod y tŷ’n cael ei rannu ar hyd y canol, a chafodd ddau ddrws ffrynt wedi’u hadeiladu. Yn seler y tŷ mae pared cryf iawn yn rhedeg rhwng y drysau ffrynt i gefn y tŷ. Petai angen, gellid estyn hyn i fyny i wneud dau tŷ ar wahân.

Ar ôl ei farwolaeth ym 1909, ni rannwyd y ty wedi’r cyfan. Yn lle hynny, gwerthwyd yr adeilad cyfan i Gyngor y Bwrdeistref ym 1913. Fe’i defnyddiwyd fel cartref swyddogol i faer y ddinas.

16. Ydych chi’n meddwl bod llawer o bobl yn byw mewn tai fel Mr Howell?  
17. Ydy’ch tŷ chi’n debyg i’r un yma? Rhestrwch y pethau sy’n debyg ac yn wahanol.