Beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr?
Faint o amser sbâr sydd gyda chi?
Yng Nghaerdydd dros 100 mlynedd yn ôl roedd pobl yn mwynhau llawer o adloniannau adnabyddus, a chawson nhw eu cyflwyno i rai newydd hefyd.
Roedd lleiniau glas yn nodwedd o Gaerdydd.
Ym 1888 rhoes Ardalydd Bute 80 erw yn y Rhath i’r ddinas ar gyfer parc cyhoeddus a chynhaliwyd cystadleuaeth i dirlunio’r parc.
| 1. | Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn y parc? |
|
Edrychwch ar un o’r dyluniadau a gyflwynwyd ar gyfer y gystadleuaeth.
| 2. | Nodwch yr holl bethau roedd dylunydd y parc yn meddwl bod pobl yn hoffi eu gwneud yn y parc. |
|

Chafodd dim un o’r dyluniadau a gyflwynwyd ei ddewis.
Nawr edrychwch ar y map yma o’r parc. Fe’i lluniwyd yn 1900.
| 3. | Nodwch yr holl bethau gallai pobl eu gwneud yn y parc. |
|

Cymharwch ddau gynllun y parc.
| 4. | Oes unrhyw beth yn debyg amdanyn nhw? |
|
| 5. | Rhestrwch y gwahaniaethau. |
|
Edrychwch ar y lluniau hyn o’r parc. Cawson nhw eu tynnu’n fuan ar ôl i’r parc agor ym 1896.


| 6. | Beth mae’r lluniau hyn yn dweud wrthym am sut gwnaeth pobl fwynhau eu hunain ym Mharc y Rhath? |
|
Adeiladwyd Stadiwm y Mileniwm ym 1999 ar safle oedd yn eiddo i Ardalydd Bute ar un adeg. Parc yr Arfau oedd enw’r lle, gwaun gorslyd tu ôl i Westy’r Arfau, neu’r Cardiff Arms Hotel. Mynegodd yr Ardalydd y gellid defnyddio’r tir dim ond ar gyfer pethau hamdden.
Ffurfiwyd Clwb Rygbi Caerdydd ym 1876 a defnyddion nhw’r parc. Chwaraeodd rhai aelodau o’r clwb eu gêm cyntaf mewn hetiau silc a gwisg hwyrol.

| 7. |
Ydych chi’n meddwl y byddai’r dynion yn gyfforddus yn chwarae
gêm rygbi mewn het silc? |
|
| 8. | Ydy hyn yn dweud unrhyw beth wrthych chi am y math o bobl a chwaraeodd y gêm? |
|