Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas

YSGOL

Ysgol Fwrdd Heol Radnor, ym 1903.

Mae’r ffotograff hwn yn dangos Ysgol Fwrdd Heol Radnor, ym 1903. 

Roedd ysgolion yn wahanol iawn 100 mlynedd yn ôl.

Gall y ffotograff hwn a rhai cynlluniau o’r ysgol ein helpu ni i ddarganfod mwy am ysgolion yn y cyfnod hwnnw.

Edrychwch yn ofalus – beth allwch chi weld?

Tasgau

1.   

 

Sawl mynedfa i’r ysgol gallwch chi eu gweld yn y llun?  
2.      

 

 

Pam ydych chi’n meddwl bod cymaint â hyn?  

 

 

 

 

 

 

Cynllun o’r ysgol.

Edrychwch ar y cynllun hwn. Mae’n dangos ddau adeilad gwahanol ar dir yr ysgol.

3. 

Allwch chi weld beth yw’r adeiladau gwahanol?  

4.  

 

Sut mae’r dystiolaeth yn eich helpu chi i ddarganfod pam mae cymaint o fynedfeydd i’r ysgol?  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynllun o’r ysgol.

Dyma gynllun arall o’r ysgol. Mae’n dangos y lle chwarae.

5.    

 

Beth ydych chi’n sylwi am y lle chwarae?  

6.   

Ydy hyn yr un peth â’r lle chwarae yn eich ysgol chi?  

7.   

 

Pam cafodd y plant eu gwahanu yn eich barn chi?  
8.    Allwch chi weld y storfa goed?  

9.   

 

Beth ydych chi’n meddwl oedd y rheswm am orfod storio coed?  

 

 

 

Cynllun o ysgol y bechgyn.

Edrychwch ar y cynllun hwn o ysgol y bechgyn.

10.   

Sawl lle tân sydd yno?

 
11.   

Os edrychwch chi yn ôl i’r ffotograff ar ddechrau’r adran, allwch chi ddarganfod pam mae cymaint o ffenestri yn yr adeilad?

 
12.  

Sut byddai’r ystafelloedd dosbarth yn y gaeaf, yn eich tyb chi?

 

Pa mor wahanol oedd Ysgol Fwrdd Heol Radnor i’ch ysgol chi?

Gwnewch restr o’r pethau sy’n debyg ac yn wahanol.

Fyddech chi wedi hoffi mynd i’r ysgol hon ym 1890?