Addysg
Cyn
1870, doedd dim rhaid i blant fynd i’r ysgol. O’r rheiny
a aeth i’r ysgol, mynychent un o bedwar math gwahanol:
- Ysgolion Sul.
Yr unig ysgolion ar gyfer y rhan fwyaf o blant lle dysgwyd ysgrifennu
a chrefydd iddynt gan fwyaf.
- Ysgolion Preifat.
Ceir sôn weithiau am ysgolion preifat yn adroddiadau Comisiwn
yr Elusennau a Chomisiynwyr Addysg megis adroddiad y ‘Llyfrau
Gleision’ i Gymru, 1847.
- Ysgolion yn
cael eu rhedeg gan Gymdeithas Wirfoddol.
Sefydlwyd Cymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor yn 1808 fel sefydliad
digrefydd. Defnyddiwyd disgyblion hŷn i ddysgu’r rhai iau.
Sefydlwyd y Gymdeithas Genedlaethol ym 1811 i sefydlu a chyllido
ysgolion ar gyfer plant Anglicanaidd.
Ffurfiwyd Cymdeithas Ysgolion Tlodion Catholig ym 1847.
I ddechrau roedd yr ysgolion hyn yn hunan-gyllido, er bod rhai cronfeydd
Llywodraeth ar gael ar ôl 1833 ar gyfer gwaith adeiladu.
- Ysgolion Gwaddoledig
Gadawodd pobl arian yn eu hewyllysiau i helpu cyllido’r ysgolion
hyn. Yn eu plith ceir enghreifftiau fel Ysgol Howell i ferched,
Llandaf.
After
1870
Ym 1870 pasiwyd
Deddf Addysg Forster a sefydlwyd Byrddau Ysgol yn y rhan fwyaf o ardaloedd.
Eu nod oedd llenwi’r bylchau yn y system ysgolion gwirfoddol ar
yr adeg hynny. Dechreuodd y Bwrdd Ysgol yng Nghaerdydd ym 1875, ac yn
gyflym daeth Ysgolion Bwrdd i reoli addysg elfennol. Agorodd yr ysgol
gyntaf yn Eleanor Street, Butetown ym 1878. Erbyn 1880, roedd rhaid
i bob plentyn fynychu ysgol hyd at ddeng mlwydd oed. Agorwyd Ysgol Radnor
Road ym 1886.

Ysgol
Bwrdd Radnor 1886.
[BC/S1/4967]
Dechwelyd
i'r top

Y
cofnod cyntaf yn Llyfr Log Ysgol Radnor i Fechgyn, 1888.
[EC/21/3]

Ysgol
Bwrdd Radnor, 1903.
[DX489]
Dechwelyd
i'r top
Libraries
Ym 1860 sefydlwyd
llyfrgell wirfoddol gydag ystafell ddarllen uwchben y fynedfa i’r
Arcêd Frenhinol. Denodd y llyfrgell dros 95,000 o ymwelwyr yn
y flwyddyn gyntaf er gwaethaf y ffaith mai 40 cyfrol yn unig oedd gyda
nhw. Cafodd ei throsglwyddo i’r Gorfforaeth ym 1862 ac ychwanegwyd
llyfrgell fenthyca ac amgueddfa. Symudodd y Llyfrgell i 79 St Mary Street
y flwyddyn olynol ac ym 1866 sefydlwyd Ysgolion Celfyddyd a Gwyddoniaeth.
Ym 1879 dewisodd y Gorfforaeth safle yn Trinity Street i fod yn gartref
i’r llyfrgell newydd a threfnwyd cystadleuaeth i’w chynllunio.
Cyflwynwyd 127 o gynlluniau ond cynlluniwyd yr adeilad buddugol gan
James, Seward & Thomas.
Pan
agorodd yr adeilad ym 1882 datganwyd gŵyl gyhoeddus.
Erbyn 1887 mynychodd 2000 o bobl y llyfrgell bob dydd a daeth yn glir
fod eisiau estyniad. Cafodd hyn ei gynllunio gan Seward a Thomas hefyd,
ac agorwyd yr adeilad newydd ym 1896.

Safle’r
Hen Lyfrgell, 1850.
[AO
43:15.7, 1851]

Yr
Hen Lyfrgell.
[DXGC20/146]
Dechwelyd
i'r top

Cynlluniau
cystadleuaeth ar gyfer y llyfrgell.
[BC/S1/7678]

Estyniad
y Llyfrgell. Cynlluniwyd gan Seward & Thomas, 1893.
[BC/S1/7678]
Dechwelyd
i'r top
Prifysgol
| Agorwyd Prifysgol
De Cymru a Mynwy ym 1883 yn Adeiladau’r Hen Glafdy, Newport
Road. Cofrestrodd 151 o fyfyrwyr.

|

Safle
Clafdy Morgannwg a Mynwy 1880 a 1901.
[AO
43:15 argraffiad 1af a 2il agraffiad] |
Bloc
Cemeg a Ffiseg, 1904.
[BC/S1/15469] |
Ym
1893 cynigiodd yr Ardalydd Bute werthu tir ym Mharc Cathays i’r
Bwrdeistref a dechreuwyd codi adeiladau newydd ar gyfer y brifysgol.
Cyfrannwyd arian tuag at adeilad Cemeg a Ffiseg newydd gan Arglwydd
Glanely. |
Dechwelyd
i'r top
Arddangosfa
Celfyddyd Gain, Diwydiant a’r Môr, 1896
Dechreuodd
y mudiad i gynnal arddangosfa o gelfyddydau a diwydiant gyda Phwyllgor
Llyfrgell Rydd Bwrdeistref Caerdydd. Ffurfiwyd pwyllgor cyffredinol
o enwogion, dynion busnes a diwydianwyr a oedd yn awyddus i hyrwyddo
adnoddau a diwydiannau lleol Caerdydd. Rhoddodd Ardalydd Bute ganiatâd
iddynt ddefnyddio Parc Cathays fel safle’r arddangosfa. Cynlluniodd
Edwin Seward brif adeilad yr arddangosfa a fu’n gartref i ddangosion
megis peiriannau a chelfyddyd gain.
Cynllun
llawr prif adeilad yr arddangosfa.
[BC/S1/11045]
|
| Roedd tiroedd
yr arddangosfa’n cynnwys camlas a llyn ar gyfer dangosion
morol, modelau o laethdy gweithredol, ffatri bisgedi a thŷ Shakespeare.
Roedd yr achlysur yn sioe ryfeddol, gydag arddangosfeydd celf, cyngherddau,
sioeau awyr agored a marchnad Indiaidd egsotig. Yn ystod chwe mis
yr arddangosfa, ymwelodd miliwn o bobl â hi. |
Cynllun
o diroedd yr arddangosfa, gan gynnwys y panorama
[BC/S1/11392]
|
Dechwelyd
i'r top |