Theatr
Gerdd
Agorodd
y theatr gyntaf i bwrpas, y Theatre Royal, yng Nghaerdydd yn 1826,
ar safle’r Park Hotel heddiw. Cafodd ei ddinistrio gan dân
1877, ac erbyn hynny codwyd theatr arall, o bren, yn Westgate Street.
Rhoddwyd enw’r Circus Theatre iddi oherwydd iddi gael ei hadeiladu
ar safle syrcas bren. Parhaodd tan 1896 pan gafodd ei ddymchwel i
wneud mwy o le am y swyddfa bost newydd..
Adeiladwyd
y Theatre Royal Newydd ar gornel St Mary Street a Wood Street hefyd
ar safle syrcas ym 1878 a chafodd ei chynllunio gan y pensaer WD Blessley.
Pan gafodd ei llosgi’n llwyr gan dân ym 1899, cafodd ei
hailadeiladu’n gyfan gwbl. Amrywiodd ei lwc dros y blynyddoedd:
ym 1920 cafodd ei hail-enwi fel y Playhouse, ac ym 1935 fel y Prince
of Wales. Mae wedi cadw’r enw Prince of Wales yn ei rôl
bresennol fel tafarn.

Y
Empire Palace, Stryd y Frenhines, 1895. Cynlluniwyd gan Frank
Matcham, y pensaer theatr mwyaf cynhyrchiol erioed, o bosibl.
[BC/S1/10904]
|
Roedd yr Empire
Theatre, adeiladwyd ym 1887, yn gallu cynnal 2000 o bobl yn y
gynulleidfa. Aeth yn sinema ym 1933 tan ei dymchwel ym 1962.

New
Theatre |
| Cynlluniwyd
y New Theatre gan y Meistri Rutz a Ford a fu’n gyfrifol am
theatrau’r Adelphi a Gaiety yn Llundain. Adeiladwyd ym 1906
y llwyfan oedd yr un fwyaf yn y wlad. |
Dechwelyd
i'r top
Sinema
Ganwyd
sinema ym 1895 pan dafluniodd Louis Lumière luniau ffotograffig
symudol am y tro cyntaf ar gyfer cynulleidfaoedd talu ym Mharis. Yn
fuan daeth y darluniau byw hyn yn ffurf boblogaidd o adloniant. Ar
ôl y Rhyfel Byd Cyntaf datblygodd sinema yn gyflym i fod yn
ffurf fawr o adloniant torfol. Erbyn 1934 roedd un sedd sinema fesul
deg o bobl yn Ne Cymru.
Cartref
cyntaf sinema fasnachol oedd y theatr gerdd. Byddai rhaglenni’n
cynnwys sawl ffilm amrywiol fer, a byddent yn cael eu newid ddwywaith
yr wythnos. Cawsant eu hanelu at ddenu cynulleidfa ddosbarth gweithiol
drefol. Erbyn 1912 roedd y ffilmiau wedi datblygu’n raddol i
fod yn rhai hir.
Gyda
dirywiad y theatr gerdd, dangoswyd ffilmiau mewn caeau ffeiriau. Dechreuodd
un arddangosydd ffeiriau teithiol, William Haggar, wneud ei ffilmiau
ei hunan. Erbyn 1910 dangoswyd ffilmiau yn y sinemâu mwy parchus.
Newidiodd rhaglenni yn raddol i gynnwys dwy brif ffilm, ynghyd â
ffilmiau newyddion, cerddoriaeth organ a hysbysebion. Llenwodd rhai
eitemau adloniadol yr amser rhwng ffilmiau, ac weithiau cafwyd darlith
mewn rhai sinemâu lleol. Newidiodd y rhaglenni yn ddiweddarach
i gynnwys prif ffilm gydag un fer yn dangos am wythnos, ac wedyn i’r
sinemâu aml-sgrîn modern.
 |
Sinema
yn Heol Woodville, Cathays, 1913.
[BC/S1/18481]

|
| |
Dechwelyd
i'r top
Parciau
a Gerddi
Mae
lleiniau gwyrdd yn nodwedd ar Gaerdydd ac mae’n bosibl cerdded
trwy ganol y ddinas o’r castell i Eglwys Gadeiriol Llandaf
a hynny ar dir parc.
Rhoddodd
Deddf Gwella 1875 y grym i’r Gorfforaeth ddarparu llefydd
ar gyfer hamddena. Gwelodd tirfeddianwyr fanteision i roi tir gwael
i’r fwrdeistref er mwyn i’r awdurdod ysgwyddo’r
gost o ddraeniau, tirlunio ac adeiladu ffyrdd. Byddai tiroedd ystad
cyfagos yn elwa o’r gwaith a’r amgylchoedd dymunol.
Ym 1888 rhoddodd
yr Ardalydd Bute 80 erw i’r ddinas yn y Rhath, a ddaeth
yn ei dro yn Barc y Rhath. Cynhaliwyd cystadleuaeth dirlunio ar
gyfer y parc, ond er i saith o gynlluniau gael eu cyflwyno, ni
ddewiswyd yr un ohonynt. Gosododd William Harpur, syrfëwr
y fwrdeistref y parc a phenododd y gorfforaeth William Wallace
Pettigrew fel prif arddwr.
|

Rhan
o gynllun ar gyfer y parc a gyflwynwyd i’r gystadleuaeth. |
Dechwelyd
i'r top

Parc
y Rhath.
[DXGC20/150]
|
| 
Cychod
ar Lyn Y Rhath.
[DXGC20/158] |
|

Cynllun
Parc y Rhath.
[AO 43:7
2il argraffiad]
|
Dechwelyd
i'r top
Dilynodd
tirfeddianwyr eraill yr esiampl hon. Cynigiodd Arglwydd Tredegar Erddi
Waterloo a Gerddi Melin y Rhath (Roath Mill Gardens). Tirluniwyd y
ddwy ardal hefyd gan William Pettigrew.
Lleoliadau
Chwaraeon
Gwaun
gorslyd tu ôl i Westy’r Arfau neu’r Cardiff Arms
Hotel oedd Parc yr Arfau, yn eiddo i Ardalydd Bute. Dywedodd yr Ardalydd
y gellid defnyddio’r tir dim ond ar gyfer pethau hamdden. Ym
1845 aeth yn gartref i Glwb Criced Caerdydd.
Ffurfiwyd
Clwb Rygbi Caerdydd ym 1876 a defnyddion nhw’r parc hefyd. Chwaraeodd
rhai aelodau o’r clwb eu gêm cyntaf mewn hetiau silc a
gwisg hwyrol.
Wrth
i boblogrwydd chwaraeon i wylwyr dyfu, datblygodd y Clwb eisteddle.
Ym 1884 chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf pan gurodd Cymru
Iwerddon, ac ym 1905 parhaodd y traddodiad cryf wrth i Gymru guro
Crysau Duon Seland Newydd.
Ym
1922 penderfynodd Arglwydd Bute werthu’r tir. Prynwyd y stadiwm
gan Glwb Athletau Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru. Er mwyn helpu talu
am gynnal y safle, agorwyd trac milgwn ym 1927. Ym 1958 cynhaliwyd
chweched Gemau Cymanwlad Prydain a’r Ymerodraeth yng Nghaerdydd.
Cynhaliwyd y cystadlaethau trac a maes ym Mharc yr Arfau ar yr hen
drac milgwn.

Parc
yr Arfau
[BC/S1/25776]
Dechwelyd
i'r top

Cerdyn
Adnabod Milgwn.
[
2001/101]
Ym
1934 codwyd eisteddle dwbl ar ochr ogleddol y maes rygbi.

Cynllun
ar gyfer eisteddle deulawr ym Mharc yr Arfau, 1934.
[BC/S1/28945]
Ar
ddiwedd y 1960au adeiladwyd Stadiwm Genedlaethol ar Barc yr Arfau
i gynnal gemau rhyngwladol. Ym 1999 agorwyd Stadiwm y Mileniwm yn
ei le.
Chwaraeodd
Clwb Pêl-droed Glan yr Afon, neu’r Riverside Football
Club, sefydlwyd ym 1899, gemau ar Barc yr Arfau tan 1910. Unwaith
i’r Clwb ddechrau cyflogi chwaraewyr proffesiynol ym 1908
roedd angen maes addas arnynt. Darparwyd Parc Ninian gan y gorfforaeth,
wedi’i enwi ar ôl yr Arglwydd Ninian Stuart a gytunodd
i weithredu fel gwarantwr.
Dechwelyd
i'r top
Tafarnau
Darparodd
tafarnau ffurf reolaidd o adloniant ar gyfer llawer o bobl. Chwaraewyd
ceilys, bowliau a biliards i gyd yno.
Roedd
cwrw o bob math yn brif ddiodydd i’r rhan fwyaf o bobl yn
y 16eg a 17eg ganrif. Erbyn y 18fed ganrif roedd cwrw du yn tyfu
mewn poblogrwydd. Diod fwy bras oedd hi, wedi’i henwi yn
y Saesneg (sef “porter”) ar ôl y gweithwyr a
fyddai’n ei hyfed. Cadwodd yn hirach na chwrwau eraill,
ac roedd o ansawdd mwy cyson. Cyfrannodd at ehangiad y diwydiant
bragu.
Bragdy
William's oedd y bragdy hynaf yng Nghaerdydd, adeiladwyd ym 1713
ar St Mary Street. Cymerwyd hyn drosodd gan Samuel Brain ym 1882
ac ehangodd y busnes yn gyflym.
Agorodd
Hancocks brif swyddfa yn Crawshay Street ym 1894. |

Gwesty’r
Four Elms, Elm Street, 1899.
[BC/S1/10703]
|

Ty’r
Bragdy, 1899.
[BC/S1/7437]
|
| 
Ty’r
Bragdy, 1899
[BC/S1/7437] |
Dechwelyd
i'r top

Tanc
copr ar gyfer bragu, 1907.
[BC/S1/16408]
Dechwelyd
i'r top
Temperance
Town, neu Tref Dirwest yn Gymraeg oedd yr unig le yng Nghaerdydd
lle gwaharddwyd gwerthu diodydd alcoholig yn llwyr. Ym 1850 cymerodd
Jacob Scott Matthews, garddwr masnachol a dirwestwr llwyr, dir
ar brydles gan y Cyrnol E. R. Wood, arloeswr y mudiad dirwest.
Pwll mwd oedd y tir, ond unwaith iddo gael ei lenwi a’i
lefelu at ddibenion adeiladu, codwyd tai ar yr amod llym nad oedd
unrhyw dafarnau i gael eu hadeiladu yno.
Dymchwelwyd
Temperance Town yn y diwedd i wneud lle ar gyfer yr orsaf fysiau
newydd. |

[AO 43:15
agraffuad 1af]
|
Dechwelyd
i'r top |