|
Y Prosiect
Mae Archifdy Morgannwg
yn gartref i gyfres o 40 000 o gynlluniau rheoliadau adeiladu sy’n
ganolbwynt i’r prosiect. Mae’r cynlluniau cyntaf yn dyddio
o 1857 ac yn ymestyn hyd at y 1960au. Ymhlith y casgliad mae cynlluniau
ysgolion, sinemâu, stadia chwaraeon, gwestai, tafarndai, bariau
coffi, cysgodfannau rhyfel, siopau, tlotai, ysbytai, swyddfeydd, ffatrïoedd,
eglwysi, mosgiau, synagogau a thai.
Ym mis Chwefror
2002 dyfarnodd Cronfa Dreftadaeth y
Loteri £48 600 i Archifdy Morgannwg tuag at gostau Caerdydd:
Hanes Adeiladu Prifddinas. Mae’r prosiect hwn wedi:
- Catalogio’r
cynlluniau fel bod modd chwilio amdanynt dros y rhyngrwyd. Chwilio
am gynllun.
- Atgyweirio nifer
fawr o eitemau a oedd wedi eu difrodi er mwyn iddynt gael eu defnyddio
gan y cyhoedd.
- Ailbacedu’r
holl gynlluniau mewn defnyddiau archifol arbennig.
- Gosod gwybodaeth
ar wefan yr Archifdy er mwyn hybu defnyddio’r cynlluniau a’r
adnoddau eraill sy’n ymwneud â threftadaeth adeiledig
Caerdydd.
Diweddariad,
Ionawr 2006
Ers
Ionawr 2006, ychwanegwyd i'r mynegai ar-lein cynlluniau adeiladu
o'r cyn Cyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd ar gyfer y blynyddoedd
1875 - 1926. Roedd Cyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd yn cynnwys
y plwyfi canlynol:
Tresimwn,
Larnog, Lecwydd, Llysfaen, Llancarfan, Llanedern, Llanfedw, Llanilltern,
Llantriddyd, Llanfithyn, Llanfihangel-y-Pwll, Pendeulwyn, Pen-Marc,
Pen-tyrch, Llanbedr-y-Fro, Porthceri, Rhyd-y-gwern, Rhydri, Saint
Andras, Llansanffraid-ar-Elai, Sain Ffagan, Sain Siorys, Llwyneliddon,
Sain Nicolas, Sili, Fan, Llanddunwyd, Gwenfo a'r Eglwys Newydd.
A
fyddwch gystal â nodi fod cynlluniau adeiladu Cyngor Dosbarth
Gwledig Caerdydd yn cael i'w chadw mewn storfa allanol, a fydd
angen o leiaf wythnos o rybudd er mwyn eu trosglwyddo i'r ystafell
ddarllen gyhoeddus ar gyfer ymgynghoriad.
|
Roedd gweithwyr
gwirfoddol yn rhan bwysig o’r prosiect, ac rydym yn ddiolchgar
iawn i’r holl bobl hynny a gyfrannodd trwy restru neu ddiogelu’r
cynlluniau.
Gellir defnyddio’r
cynlluniau er mwyn astudio nifer o wahanol destunau. Drwy gysylltu’r
cynlluniau gyda dogfennau eraill yn yr Archifdy, yn Llyfrgell Ganolog
Caerdydd ac yng Nghanolfan Celfyddyd a Hanes Butetown, mae’n bosibl
llunio darlun manwl o’r adeiladau, pwy oedd yn eu defnyddio a’r
ffordd roedden nhw’n cael eu defnyddio.
|