| Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas | |||||
HAFAN |
AM Y PROSIECT |
CHWILIO AM GYNLLUN |
ADNODDAU PLANT |
DOLEN |
|
Pam? |
Ble? |
Pwy? |
Addoliad |
Addysg |
Hamdden |
Ble oedd pobl yn byw?Rheolwyd datblygiad tai cynnar Caerdydd yn dynn gan y tri theulu tirfeddiannol mwyaf blaenllaw yn y ddinas.
Arweiniodd y broses hon at nodweddion arbennig Caerdydd y gallwn ni eu gweld heddiw. Mae rhyw unffurfedd a safonau gyda’r tai a gynlluniwyd gan bensaer pob ystad sy’n anghyffredin yn ninasoedd Fictoraidd cynnar eraill. Mae hyn yn cael ei amlygu gan adeiladau cyferbyniol ar diroedd ystadau Bute a Thredegar a’r rheiny a godwyd gan y Gymdeithas Tir Rhydd-ddaliol Genedlaethol. Sefydlwyd y Gymdeithas Tir Rhydd-ddaliol Genedlaethol ym 1849 gan John Bright, Richard Cobden, a Syr Josiah Walmsley gyda’r nod o gynyddu’r niferoedd o bobl a allai bleidleisio. Ar yr adeg hynny, roedd yr hawl i bleidleisio’n gyfyngedig i’r rheiny yn meddu ar eiddo gwerth dros swm gosod bob blwyddyn. Prynodd y gymdeithas 110 erw o dir o werthiant Ystad Romily ym 1852 yn ardal Treganna yng Nghaerdydd.
Erbyn 1840 roedd ystad Bute yn berchen ar ddeg gwaith cymaint o dir yng Nghaerdydd na’r Gorfforaeth. Sefydlodd yr ail ardalydd safonau uchel ar gyfer yr adeiladau a godwyd ar ei dir, ymarfer a gafodd ei barhau gan ei fab a oedd yn sicrhau bod gardd gyda phob tŷ. Sefydlodd y trydydd ardalydd hefyd sgwariau ar hyd tiroedd yr ystad. Mae enwau unigryw strydoedd a nodweddion Caerdydd yn pwysleisio’r cysylltiadau rhwng y ddinas a’r teulu. Ymhlith yr enghreifftiau mae Bute Street, Sgwâr Mountstuart, Parc Ninian a Gerddi Sophia. Nod Butetown oedd bod yn ardal i fasnachwyr a gweithwyr y dociau fel ei gilydd. Yn raddol symudodd y masnachwyr mwy cyfoethog allan o’r ddinas yn gyfan gwbl, gyda sawl un yn symud i strydoedd helaeth Tredegarville, y datblygiad cynharaf yn y Rhath. Aeth Butetown yn fwy pwysig yn raddol fel canolfan fasnachol y diwydiant allforio glo. Aeth adeiladau megis y Gyfnewidfa Glo a Llongau ac Adeilad y Pier Head yn ganolbwyntiau. 1875 Arweiniodd poblogaeth gynyddol y ddinas erbyn 1875 at estyn ei ffiniau i gynnwys plwyfi’r Rhath a Threganna.
Tai o ansawdd ar gyfer unigolion mwy cyfoethog oedd nod y tai yn Tredegarville, tai a adeiladwyd ar dir Arglwydd Tredegar. Roedd y strydoedd a enwyd ar ôl gemau a mwynau yn gartrefi o ansawdd ychydig yn is. Darparodd yr ystad Mackintosh o gwmpas Blasnewydd dai ar gyfer y dosbarthiadau canol is o’r 1880au ymlaen, a gwnaeth y Gymdeithas Tir Rhydd-daliol yr un peth yn Nhreganna tua’r un adeg. 1914
Yn dilyn y rhyfel a Deddf Cynlluniau Noddi Tai 1919, cynyddodd rhaglen adeiladu Caerdydd gymaint fel y bu’n rhaid cael safleoedd tu allan i ffiniau’r ddinas. Arweiniodd hyn, ym 1922, at ehangiad pellach o’r ffiniau i ogledd a gorllewin y ddinas a chreu wardiau newydd Penylan, Llandaf a Gabalfa. Gosodwyd ystadau tai yn Nhrelái, Mynachdy a Thremorfa. Dylanwadwyd ystad Trelái yn fawr iawn gan fudiad yr Ardd-Ddinas, a chafodd ei seilio o gwmpas rhodfa goed eang o’r enw Grand Avenue yn ymestyn am fwy na milltir ar draws hyd y faestref. Ar un adeg y tai bwrdeistrefol mwyaf a ddarparwyd yn Ewrop oedd yr ystad. Symudodd teuluoedd i’r tai hyn o strydoedd gorlawn Sblott, Adamstown a Butetown.
Adeiladwyd Caerau, estyniad diweddarach o’r ystad wreiddiol, yn y 1950au a’r 1960au ar gynllun tebyg, gyda Heol Trelái yn adlewyrchu’r Grand Avenue. Ym 1937 ymgorfforwyd plwyf Tredelerch yn y ddinas. Yn y 1930au daeth chwalu’r hoflau ac ailgartrefu tenantiaid yn flaenoriaeth i’r Gorfforaeth o dan y Deddfau Tai 1930, 1933 a 1935. Er gwaethaf gorwedd yn Sir Fynwy dewiswyd tir yn Nhredelerch a Llaneirwg i gydbwyso ardaloedd tai bwrdeistrefol y ddinas ar gyrion orllewinol y ddinas. Trefolwyd yr ardal yn helaeth yn y 1950au, a daeth ehangiad pellach o’r ffiniau â Llanrhymni i mewn i’r ddinas. 1967 Ffurfiwyd wardiau Rhiwbina a’r Eglwys Newydd yn 1966. Roedd y rhan fwyaf o Riwbina wedi cael ei gosod yn gynnar yn yr 20fed ganrif ar yr Ardd-Ddinas ond roedd wedi gwrthwynebu ymgorfforiad â’r ddinas. Cyd-ddigwyddodd ehangu Caerdydd yn 1974 a 1996 ag ad-drefnu llywodraeth leol. |
|||||||||||||||||