|
Pwy adeiladodd Caerdydd?
Cafodd
penseiri a gyflogwyd gan y gwahanol dirfeddianwyr yng Nghaerdydd ddylanwad
mawr ar y gwaith adeiladu yn y ddinas.
Mae’r
gronfa ddata
yn rhestru dros 300 o benseiri a luniodd gynlluniau ar ran sawl cleient.
EWM
Corbett
Mae Edwin Wortley Montague Corbett yn gyfrifol am dros 1100 o’r
cynlluniau a ddarganfuwyd yn y casgliad. Gweithiodd fel pensaer,
syrfëwr ac asiant i Ystad Bute yn Swyddfa’r Ystad yn
Castle Street.

Cynllun
Llawr o’r Eglwys yn Sefydliad yr Eglwys a Morwyr Bute Crescent,
1890.
[BC/S1/7802] |

Stabl
yn Ffordd y Gadeirlan, 1894.
[BC/S1/9727]
Gwnaethpwyd
y rhan fwyaf o’i waith ar ran y rheiny a oedd wedi ennill
prydlesi adeiladu gan Ardalydd Bute. Goruchwyliodd hefyd ddatblygiad
y strydoedd a’r draeniau yn sawl ardal o’r ddinas
yn perthyn i’r ystad. |
|
|

Popty,
Railway Street 1890.
[BC/S1/7592]
|
Habershon
a Fawckner
Bu
Habershon & Fawckner, cwmni a sefydlwyd ar ganol y 19eg
ganrif, yn gyfrifol am waith ar ran Ystâd Tredegar. Cwmni
o Lundain yn wreiddiol, agorwyd swyddfa yng Nghasnewydd ym 1857
ac wedyn yng Nghaerdydd i reoli eu gwaith ystad.
Roedd
cyfrifoldeb penodol gyda’r cwmni am ddatblygu tiroedd
yr ystad, yn enwedig yn Sblott, lle mae enwi Habershon Road
yn dangos eu dylanwad.
Y Plasty,
sydd bellach yn gartref swyddogol Maer Caerdydd, yw un adeilad
adnabyddus iawn a gafodd ei gynllunio gan y cwmni. Dyn busnes
blaengar oedd James Howell ym 1890. Agorodd ei siop Caerdydd
gyntaf ym 1865, ar ddechrau ffyniant masnachol Caerdydd a
thros amser aeth yn fwyfwy llwyddiannus, gan symud i adeiladau
newydd a’u hehangu wedyn. Ym 1890 gwnaeth Howell drefniadau
i godi adeilad ar dir a brydleswyd gan Arglwydd Tredegar.
|
| Mae’r
cynlluniau a gyflwynwyd gan Habershon & Fawckner yn dangos
cartref teuluol mawr, digon i gynnal ei blant, 11 ohonynt i gyd.
Un agwedd anarferol o’r tŷ yw’r ddau ddrws ffrynt
iddo. Roedd Howell, dyn busnes clyfar, wedi sicrhau bod y tŷ
yn gallu cael ei rannu’n ddau – efallai er mwyn hwyluso
ei werthu ar ôl iddo farw. Yn y seler, codwyd pared cynhaliol
y gellid ei estyn i fyny er mwyn rhannu’r tŷ yn ddau.
Prynwyd y tŷ gan y gorfforaeth ym 1913, i wasanaethu gan
bennaf fel llety ar gyfer ymweliad chwemisol barnwyr y Llysoedd
Chwarter. |
Tai,
Heol Richmond, 1879.
[BC/S1/1811]
|
William
Harpur
Penodwyd
William Harpur yn Syrfëwr y Fwrdeistref yn 1883. Er nad oes
unrhyw gynlluniau wedi’u llunio ganddo yn goroesi yn y casgliad,
efe yn fwy na neb arall efallai fu’n gyfrifol am Gaerdydd
fel rydym yn ei hadnabod heddiw. Fel Syrfëwr y Fwrdeistref,
efe oedd â’r gair olaf dros dderbyn ddarpar gynllun
gosod stryd neu adeilad unigol yn ystod y ffyniant adeiladu wedi’i
hybu gan dwf y ddinas ar ddiwedd y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r
20fed ganrif. |
 |
Gallwch
weld tystiolaeth o’i waith yng ngosodiad Parciau’r Rhath
a Fictoria, yn ogystal â’r ganolfan ddinesig newydd
ym Mharc Cathays. Os ydych chi wedi ymweld â’r farchnad
Ganolog, yn St Mary Street, byddwch chi wedi mynd i mewn i Gyntedd
y Farchnad wedi’i gynllunio hefyd gan Harpur. |
Dechwelyd
i'r top
John
Prichard
John
Prichard oedd Pensaer Esgobaeth Llandaf ac ef fu’n goruchwylio’r
gwaith adfer ar y gadeirlan. Bu’n gyfrifol hefyd am nifer
o adeiladau eglwysig ar draws yr esgobaeth. Ef hefyd gynlluniodd
T&ycircum;y Nasareth ar gais yr Ardalydd Bute. |

Tŷ
Nasareth 1847.
[BC/S1/90847]
|

Cynllun
llawr gyntaf Tŷ Nasareth. |
Dechwelyd
i'r top

Ystafell
Lawdriniaeth Clafdy Brenhinol Caerydd, 1900.
[BC/S1/14048] |
Edwin Seward
Bu
Edwin Seward, partner gyda chwmni James, Seward a Thomas, yn gyfrifol
am gynllunio nifer o adeiladau cyhoeddus a masnachol yng Nghaerdydd.
Roedd
Seward yn rhan o’r Arddangosfa Ddiwydiant, Celfyddydau Cain
a Môr a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym 1896 a chynlluniodd
adeiladau ar gyfer yr adeiladau bwrdeistrefol ac oriel gelf newydd
i’w codi yn Park Place. |

Estyniad
Seward i’r Arcêd Brenhinol, 1901
[BC/S1/14413]
|
Efe hefyd
oedd pensaer y Llyfrgell ac Oriel Ganolog yn yr Aes, yn ogystal
â’r Gyfnewidfa Glo a Llongau, Mount Stuart. |
Dechwelyd
i'r top
Harry
Snell
Penodwyd
Harry Snell i Ystad Windsor fel pensaer a syrfëwr ym 1875.
Goruchwyliodd ddatblygiad Grangetown ar ddiwedd y 19eg ganrif,
ac fel Corbett a Habershon a Fawckner roedd ei waith yn dibynnu’n
fawr ar ei sefyllfa yn yr ystad.
|
Thomas
Waring
Cyflogwyd
Thomas Waring fel syrfëwr a pheiriannydd i Fyrddau Iechyd
Lleol Caerdydd, Treganna a’r Rhath, yn ogystal â Rhanbarth
Gwledig Caerdydd. Roedd yn gyfrifol am nifer helaeth o dai a adeiladwyd
rhwng 1874 a 1890, ond dim gwaith cyhoeddus, yn wahanol i’w
olynydd William Harpur.
Dechwelyd
i'r top
Gobeithir
bydd y prosiect yma yn amlygu'r amryw penseiri eraill a oedd yn
gyfrifol am adeiladu’r brifddinas. |
|