| Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas | |||||
HAFAN |
AM Y PROSIECT |
CHWILIO AM GYNLLUN |
ADNODDAU PLANT |
DOLEN |
|
Pam? |
Ble? |
Pwy? |
Addoliad |
Addysg |
Hamdden |
Pam tyfodd Caerdydd?Roedd Caerdydd yn dref ffyniannus ym Mhrydain Oes Fictoria. Dengys y cyfrifiad cyntaf a gynhaliwyd ym 1801 fod 1, 870 o bobl yn byw yng Nghaerdydd. Nid oedd y nifer hwn wedi newid fawr ddim ers y 17eg ganrif a’r 18ed ganrif. Mae map a luniwyd gan John Speed ym 1610, yn rhoi syniad o faint a siâp y dref.
Erbyn 1841 roedd y boblogaeth wedi cynyddu bum gwaith cymaint. Yn ystod y cyfnod hwn newidiodd Caerdydd o fod yn ardal wledig ac amaethyddol yn ei hanfod i fod yn ganolfan ddiwydiannol. Ail Ardalydd Bute oedd y person mwyaf cyfrifol am y newidiadau enfawr.
Doc y Gorllewin, 1839. [Q/D/P/50]
Mae ystadegau’r cyfrifiad yn dangos y rhesymau dros y newidiadau enfawr yng Nghaerdydd ym marn y werin ar y pryd.
Map o Gaerdydd a luniwyd ym 1851. [DCH/23]
Roedd canolfan fasnachol Caerdydd hefyd wedi ei lleoli yn y dociau. Ym 1886 agorodd y Gyfnewidfa Glo. Cynlluniwyd yr adeilad gan Seward & Jones. Am y tro cyntaf, roedd gan wŷr busnes, oedd yn delio mewn glo, fan cyfarfod canolog. Trafodwyd y cytundeb cyntaf werth miliwn o bunnoedd yno ym 1907, diwrnod pwysig iawn yn hanes busnes.
Erbyn 1913 allforiwyd 13.7 miliwn tunnell o nwyddau o’r ddinas, gyda glo’n cyfrif am 10.5 miliwn tunnell ohono. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cynhyrchwyd glo Prydain gan fwyaf ar gyfer y Llynges. Dim ond ychydig fach oedd ar ôl i’w werthu. Serch hynny roedd cynnydd cyfatebol yn y galw am aelodau criw a arweiniodd at derfysgoedd pan gafodd cannoedd o filwyr eu rhyddhau o’r lluoedd ar ddiwedd y rhyfel. Yn dilyn y rhyfel roedd gofyn mawr am lo ac roedd y pris o £6 y dunnell yn bum gwaith y pris ym 1914. Ym 1922 cymerodd y Great Western Railway drosodd a rhedeg y dociau. Gyda hyn daeth cysylltiad y teulu Bute â’r dociau i ben, gysylltiad a barhaodd am bron 85 mlynedd.
| ||||||||||||||||||