| Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas | |||||
HAFAN |
AM Y PROSIECT |
CHWILIO AM GYNLLUN |
ADNODDAU PLANT |
DOLEN |
|
Pam? |
Ble? |
Pwy? |
Addoliad |
Addysg |
Hamdden |
Mae Caerdydd
o hyd yn dref lle ceir pobl â chefndiroedd a chrefyddau gwahanol.
Denodd twf cyflym y dref yn ystod y 19eg ganrif weithwyr o Brydain ac
o gwmpas y byd.
|
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Synagog ac Ysgoldy,
Heol Clare , Grangetown, 1898.
[BC/S1/13310]
Cyfunodd y ddwy gymuned yn fuan, a ffurfiwyd Synagog Unedig Caerdydd. Gyda thwf cynyddol y ddinas a symudiad y boblogaeth Iddewig oddi wrth ganol Caerdydd cododd angen am synagogau yn nes at yr ardaloedd preswyl.
Sefydlwyd
y synagog ddiwygiedig gyntaf ym 1947. Yn y dechrau defnyddiodd Deml
Heddwch Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig ym Mharc Cathays tan 1953 pan
agorwyd synagog yn yr Hen Eglwys Fethodist Cyntefig ym Moria Place.
Ymsefydlodd grŵp helaeth o Norwyaid, Swediaid a Daniaid yng Nghaerdydd. Dyma pam sefydlodd y Gweinidog Lars Oftedal y Genhadaeth Norwyaidd i Forwyr ym 1866.
|
Golygai’r cynnydd mewn llongau Sgandinafaidd ac yn enwedig Norwyaidd ar Fôr Hafren fod angen yr eglwys a’r genhadaeth ar lawer mwy o forwyr. Ym 1920 cynigiwyd Eglwys ac Institiwt newydd ar Clarence Road a lluniwyd cynlluniau. Ynghyd â’r cynlluniau daeth llythyr. Mae’n gosod y rhesymau dros adeiladu llety ar gyfer y niferoedd mawr o ymwelwyr Norwyaidd. Er i’r cynlluniau dderbyn cymeradwyaeth, mae’n ymddangos na chafodd dim ei adeiladu. [BC/S1/20624] |
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynyddodd y gymuned Norwyaidd, ac aeth mwy o Norwyaid trwy’r porthladd fel morwyr a ffoaduriaid. Gweithiodd yr eglwys a’r staff yn galed ar y cyd â changen leol undeb morwyr Norwy i ddarparu ar gyfer ei phobl. Chwaraeodd Llynges Fasnach Norwy rôl sylweddol yn ymdrech ryfel y Cynghreiriaid. Aeth egwyl ar y lan yn anniogel oherwydd y bomio trwm yng Nghaerdydd a chafodd Cartref Morwyr Sgandinafia yn Bute Road ei fwrw a’i ddinistrio. Caeodd yr eglwys ym 1959.
Roedd Eglwys y
Morwyr (Sjømannskireken) wedi cael ei wneud o flaen llaw yn
Norwy. Yna cafodd ei chludo i Gaerdydd. Roedd yn nodweddiadol o arddull
Norwy ond wedi’i gwneud o ddarnau haearn rhychiog gan fod awdurdodau’r
porthladd yn mynnu iddi gael ei datgymalu’n rhwydd. Ym 1987
cafodd yr eglwys ei datgymalu a’i chodi eto mewn lleoliad newydd
yn edrych dros Bae Caerdydd. Cafodd ei hagor yn swyddogol fel canolfan
ddiwylliannol..
Cynyddodd masnach rhwng Prydain ac Asia ar ôl agor Camlas Sŵes ym 1869. Gwnaeth morwyr o borthladdoedd yn Somalia a’r Yemen ymweliadau rheolaidd â Chaerdydd, ac ymsefydlodd llawer yno. Serch hynny ni adeiladwyd mosg yn y ddinas tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ym 1939 lluniwyd sawl cynllun ar gyfer mosgiau yn Peel Street gan y pensaer O V Webb. Er iddynt dderbyn cymeradwyaeth, ni chodwyd yr un ohonynt.
![]() |
Cynllun
ar gyfer Mosg Stryd Peel, Butetown, 1938. [BC/S1/33198] |
Ym 1939 cyflwynodd y pensaer TE Smith gynlluniau am droi tri thŷ yn Peel Street yn fosg dros dro, cynllun a dderbyniodd gymeradwyaeth unwaith eto a’i godi yn y diwedd. Cafodd ei fomio yn ystod y rhyfel ac ym 1947 cymeradwywyd cynlluniau newydd a luniwyd gan Webb a chodwyd mosg.

Cynllun
ar gyfer Mosg Stryd Peel, Butetown, 1946.
Adeiladwyd y Mosg yn ôl cynllun symlach yn dilyn yr Ail Ryfel
Byd.
[BC/S1/35865]
Cafodd hyn ei ddymchwel ym 1988 ar gyfer mosg newydd ar y safle.
Mae’r ystod o adeiladau crefyddol sydd i’w gweld yn y ddinas yn adlewyrchu’r nifer o wahanol gredoau sydd yng Nghaerdydd.


Eglwys Santes Catherine, yr Eglwys yng Nghymru, King’s Road, Treganna, 1883. Cynlluniwyd gan John Pritchard.
[BC/S1/3990]
Eglwys Uniongred Groeg, North Church Street, Butetown, 1906.
[BC/S1/16202]
Cafodd rhai o’r adeiladau a godwyd ar gyfer un enwad eu haddasu i’w defnyddio gan enwad arall.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Capel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd, Heol y Crwys, 1899. Mosg Shah Jalal bellach. [BC/S1/13732] |
|