Y
Plasty?
Ydych chi
erioed wedi sylwi ar y Plasty yng Nghaerdydd?
Mae’r
ty mawr yma’n cael ei ddefnyddio gan Faer Caerdydd fel cartref
swyddogol.
Ond mae rhywbeth anarferol amdano fe.
Edrychwch
ar y llun hwn o’r Plasty.

Dechwelyd
i'r top
| 1. |
Beth ydych
chi’n sylwi am y drws? |
|
| 2. |
Allwch chi ei esbonio? |
|
Adeiladwyd
y tŷ yma ym 1896 ar gyfer dyn o’r enw James Howell.
| 3. |
Ydy’r
tŷ yma’n dweud unrhyw beth wrthych chi am Mr Howell? |
|
Nawr edrychwch
ar y darnau hyn o gyfrifiad 1891.
Ym 1891 roedd James Howell a’i deulu’n byw mewn cyfeiriad
gwahanol, 21 The Walk.
Enw |
Perthynas i bennaeth
y cartref |
Galwedigaeth |
| James Howell |
Head |
Draper |
| Fanny |
Wife |
|
| Thomas |
Son |
Barrister Solicitor |
| Minnie |
Daughter |
|
| Lilian |
Daughter |
|
| James |
Son |
Draper's Assistant |
| Fanny |
Daughter |
|
| Mabel |
Daughter |
|
| John |
Son |
|
| Mary |
Daughter |
|
| Harold |
Son |
|
| Arthur |
Son |
|
| Fred |
Son |
|
| Hannah Rees |
Servant |
Cook |
| Mary Harris |
Servant |
Housemaid |
| Elizabeth Evans |
Servant |
Parlourmaid |
| Mary Richards |
Servant |
General Servant |
| Mary Hitching |
Servant |
Nurse |
Dechwelyd
i'r top
| 4. |
Beth yw
swydd Mr Howell? |
|
| 5. |
Ydy’r ffaith
bod Howell yn bwriadu adeiladu tŷ newydd yn rhoi unrhyw wybodaeth
i chi am ei swydd? |
|
| 6. |
Sawl plentyn sydd gyda
fe? |
|
| 7. |
Sawl gwas neu forwyn
sydd gyda fe? |
|
| 8. |
Faint o bobl sy’n
byw yn 21 The Walk i gyd? |
|
Nawr edrychwch
ar gynllun y Plasty.

| 9. |
Os ydych
chi’n cymharu’r cynllun â’r ffotograff,
beth ydych chi’n sylwi? |
|
Dechwelyd
i'r top

Dechwelyd
i'r top
| 10. |
Faint o
risiau sydd yno? |
|
| 11. |
Beth ydych chi’n
meddwl yw’r rheswm dros hyn? |
|
| 12. |
Sawl ystafell wely
allwch chi eu cyfrif? |
|
| 13. |
Cymharwch nifer yr ystafelloedd
gwely â nifer y plant. |
|
Edrychwch
ar ffotograff y tŷ unwaith eto.
| 14. |
Ble byddai’r
gweision yn cysgu, yn eich tyb chi? |
|
Dechwelyd
i'r top
Perchennog
siop fawr Howells oedd James Howell, dyn busnes clyfar iawn.
Cynlluniodd e fod y tŷ mawr, wedi’i adeiladu iddo fe a’i
deulu, yn gallu cael ei droi’n gartrefi llai o faint. Ar ôl
iddo farw, gallai’r plant fyw naill ai yn y tai llai neu eu gwerthu’n
haws.
Edrychwch
ar gynllun llawr gwaelod y tŷ.

| 15. |
Sut byddech
chi’r troi’r tŷ yn ddau? |
|
Dechwelyd
i'r top
Cynlluniodd
James Howell fod y tŷ’n cael ei rannu ar hyd y canol, a chafodd
ddau ddrws ffrynt wedi’u hadeiladu. Yn seler y tŷ mae pared
cryf iawn yn rhedeg rhwng y drysau ffrynt i gefn y tŷ. Petai angen,
gellid estyn hyn i fyny i wneud dau tŷ ar wahân.
Ar ôl
ei farwolaeth ym 1909, ni rannwyd y ty wedi’r cyfan. Yn lle hynny,
gwerthwyd yr adeilad cyfan i Gyngor y Bwrdeistref ym 1913. Fe’i
defnyddiwyd fel cartref swyddogol i faer y ddinas.
| 16. |
Ydych chi’n
meddwl bod llawer o bobl yn byw mewn tai fel Mr Howell? |
|
| 17. |
Ydy’ch
tŷ chi’n debyg i’r un yma? Rhestrwch y pethau sy’n
debyg ac yn wahanol. |
|
Dechwelyd
i'r top
|