Glamorgan Record Office website
Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas
HAFAN
AM Y PROSIECT
CHWILIO AM GYNLLUN
ADNODDAU PLANT
DOLEN

Nodiadau

Diwydiant

Tai

Addoliad

Ysgol

Hwyl

HWYL

 

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr?

Faint o amser sbâr sydd gyda chi?

Yng Nghaerdydd dros 100 mlynedd yn ôl roedd pobl yn mwynhau llawer o adloniannau adnabyddus, a chawson nhw eu cyflwyno i rai newydd hefyd.

Parciau a Gerddi

Roedd lleiniau glas yn nodwedd o Gaerdydd.

Ym 1888 rhoes Ardalydd Bute 80 erw yn y Rhath i’r ddinas ar gyfer parc cyhoeddus a chynhaliwyd cystadleuaeth i dirlunio’r parc.

1. Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn y parc?

 

 

Edrychwch ar un o’r dyluniadau a gyflwynwyd ar gyfer y gystadleuaeth.

Dechwelyd i'r top

2. Nodwch yr holl bethau roedd dylunydd y parc yn meddwl bod pobl yn hoffi eu gwneud yn y parc. Cynllun Parc y Rhath.
 

Dechwelyd i'r top

Chafodd dim un o’r dyluniadau a gyflwynwyd ei ddewis.

Nawr edrychwch ar y map yma o’r parc. Fe’i lluniwyd yn 1900.

Cynllun Parc y Rhath 3. Nodwch yr holl bethau gallai pobl eu gwneud yn y parc.
 

Dechwelyd i'r top

Cymharwch ddau gynllun y parc.

4. Oes unrhyw beth yn debyg amdanyn nhw?

 

 

 

5. Rhestrwch y gwahaniaethau.

 

 

 

Dechwelyd i'r top

 

Edrychwch ar y lluniau hyn o’r parc. Cawson nhw eu tynnu’n fuan ar ôl i’r parc agor ym 1896.

Parc y Rhath.
6. Beth mae’r lluniau hyn yn dweud wrthym am sut gwnaeth pobl fwynhau eu hunain ym Mharc y Rhath? Cychod ar Lyn Y Rhath.
 

Dechwelyd i'r top

Adeiladwyd Stadiwm y Mileniwm ym 1999 ar safle oedd yn eiddo i Ardalydd Bute ar un adeg. Parc yr Arfau oedd enw’r lle, gwaun gorslyd tu ôl i Westy’r Arfau, neu’r Cardiff Arms Hotel. Mynegodd yr Ardalydd y gellid defnyddio’r tir dim ond ar gyfer pethau hamdden.

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Caerdydd ym 1876 a defnyddion nhw’r parc. Chwaraeodd rhai aelodau o’r clwb eu gêm cyntaf mewn hetiau silc a gwisg hwyrol.

Gêm rygbi.

7.
Ydych chi’n meddwl y byddai’r dynion yn gyfforddus yn chwarae gêm rygbi mewn het silc?
 
8. Ydy hyn yn dweud unrhyw beth wrthych chi am y math o bobl a chwaraeodd y gêm?

 

 

 

 

Dechwelyd i'r top

Click here to visit the Heritage Lottery Fund web resources