Glamorgan Record Office website
Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas
HAFAN
AM Y PROSIECT
CHWILIO AM GYNLLUN
ADNODDAU PLANT
DOLEN

Pam?

Ble?

Pwy?

Addoliad

Addysg

Hamdden

Addysg

Cyn 1870, doedd dim rhaid i blant fynd i’r ysgol. O’r rheiny a aeth i’r ysgol, mynychent un o bedwar math gwahanol:

  • Ysgolion Sul.
    Yr unig ysgolion ar gyfer y rhan fwyaf o blant lle dysgwyd ysgrifennu a chrefydd iddynt gan fwyaf.
  • Ysgolion Preifat.
    Ceir sôn weithiau am ysgolion preifat yn adroddiadau Comisiwn yr Elusennau a Chomisiynwyr Addysg megis adroddiad y ‘Llyfrau Gleision’ i Gymru, 1847.
  • Ysgolion yn cael eu rhedeg gan Gymdeithas Wirfoddol.
    Sefydlwyd Cymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor yn 1808 fel sefydliad digrefydd. Defnyddiwyd disgyblion hŷn i ddysgu’r rhai iau.
    Sefydlwyd y Gymdeithas Genedlaethol ym 1811 i sefydlu a chyllido ysgolion ar gyfer plant Anglicanaidd.
    Ffurfiwyd Cymdeithas Ysgolion Tlodion Catholig ym 1847.
    I ddechrau roedd yr ysgolion hyn yn hunan-gyllido, er bod rhai cronfeydd Llywodraeth ar gael ar ôl 1833 ar gyfer gwaith adeiladu.
  • Ysgolion Gwaddoledig
    Gadawodd pobl arian yn eu hewyllysiau i helpu cyllido’r ysgolion hyn. Yn eu plith ceir enghreifftiau fel Ysgol Howell i ferched, Llandaf.

After 1870

Ym 1870 pasiwyd Deddf Addysg Forster a sefydlwyd Byrddau Ysgol yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Eu nod oedd llenwi’r bylchau yn y system ysgolion gwirfoddol ar yr adeg hynny. Dechreuodd y Bwrdd Ysgol yng Nghaerdydd ym 1875, ac yn gyflym daeth Ysgolion Bwrdd i reoli addysg elfennol. Agorodd yr ysgol gyntaf yn Eleanor Street, Butetown ym 1878. Erbyn 1880, roedd rhaid i bob plentyn fynychu ysgol hyd at ddeng mlwydd oed. Agorwyd Ysgol Radnor Road ym 1886.

Cynllun o'r llawr ddaear.

Ysgol Bwrdd Radnor 1886.

[BC/S1/4967]

Dechwelyd i'r top

Y cofnod cyntaf yn Llyfr Log Ysgol Radnor i Fechgyn, 1888.

Y cofnod cyntaf yn Llyfr Log Ysgol Radnor i Fechgyn, 1888.

[EC/21/3]

Ysgol Bwrdd Radnor, 1903.

Ysgol Bwrdd Radnor, 1903.

[DX489]

Dechwelyd i'r top

 

Libraries

Ym 1860 sefydlwyd llyfrgell wirfoddol gydag ystafell ddarllen uwchben y fynedfa i’r Arcêd Frenhinol. Denodd y llyfrgell dros 95,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf er gwaethaf y ffaith mai 40 cyfrol yn unig oedd gyda nhw. Cafodd ei throsglwyddo i’r Gorfforaeth ym 1862 ac ychwanegwyd llyfrgell fenthyca ac amgueddfa. Symudodd y Llyfrgell i 79 St Mary Street y flwyddyn olynol ac ym 1866 sefydlwyd Ysgolion Celfyddyd a Gwyddoniaeth. Ym 1879 dewisodd y Gorfforaeth safle yn Trinity Street i fod yn gartref i’r llyfrgell newydd a threfnwyd cystadleuaeth i’w chynllunio. Cyflwynwyd 127 o gynlluniau ond cynlluniwyd yr adeilad buddugol gan James, Seward & Thomas.

Pan agorodd yr adeilad ym 1882 datganwyd gŵyl gyhoeddus.

Erbyn 1887 mynychodd 2000 o bobl y llyfrgell bob dydd a daeth yn glir fod eisiau estyniad. Cafodd hyn ei gynllunio gan Seward a Thomas hefyd, ac agorwyd yr adeilad newydd ym 1896.

Safle’r Hen Lyfrgell, 1850.

Safle’r Hen Lyfrgell, 1850.

[AO 43:15.7, 1851]

Yr Hen Lyfrgell.

Yr Hen Lyfrgell.

[DXGC20/146]

Dechwelyd i'r top

Cynlluniau cystadleuaeth ar gyfer y llyfrgell.

Cynlluniau cystadleuaeth ar gyfer y llyfrgell.

[BC/S1/7678]

Cynllun o'r llawr ddaear.

Estyniad y Llyfrgell. Cynlluniwyd gan Seward & Thomas, 1893.

[BC/S1/7678]

Dechwelyd i'r top

Prifysgol

Agorwyd Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883 yn Adeiladau’r Hen Glafdy, Newport Road. Cofrestrodd 151 o fyfyrwyr.

Safle Clafdy Morgannwg a Mynwy 1880.

Safle Clafdy Morgannwg a Mynwy 1901.

Safle Clafdy Morgannwg a Mynwy 1880 a 1901.

[AO 43:15 argraffiad 1af a 2il agraffiad]

 

Bloc Cemeg a Ffiseg, 1904. Cliciwch yma.

Bloc Cemeg a Ffiseg, 1904.

[BC/S1/15469]

Ym 1893 cynigiodd yr Ardalydd Bute werthu tir ym Mharc Cathays i’r Bwrdeistref a dechreuwyd codi adeiladau newydd ar gyfer y brifysgol. Cyfrannwyd arian tuag at adeilad Cemeg a Ffiseg newydd gan Arglwydd Glanely.

Dechwelyd i'r top

Arddangosfa Celfyddyd Gain, Diwydiant a’r Môr, 1896

Dechreuodd y mudiad i gynnal arddangosfa o gelfyddydau a diwydiant gyda Phwyllgor Llyfrgell Rydd Bwrdeistref Caerdydd. Ffurfiwyd pwyllgor cyffredinol o enwogion, dynion busnes a diwydianwyr a oedd yn awyddus i hyrwyddo adnoddau a diwydiannau lleol Caerdydd. Rhoddodd Ardalydd Bute ganiatâd iddynt ddefnyddio Parc Cathays fel safle’r arddangosfa. Cynlluniodd Edwin Seward brif adeilad yr arddangosfa a fu’n gartref i ddangosion megis peiriannau a chelfyddyd gain.

Cynllun llawr prif adeilad yr arddangosfa.
Cynllun llawr prif adeilad yr arddangosfa.

[BC/S1/11045] Cliciwch i weld cynllun o'r llawr ddaear.

Roedd tiroedd yr arddangosfa’n cynnwys camlas a llyn ar gyfer dangosion morol, modelau o laethdy gweithredol, ffatri bisgedi a thŷ Shakespeare. Roedd yr achlysur yn sioe ryfeddol, gydag arddangosfeydd celf, cyngherddau, sioeau awyr agored a marchnad Indiaidd egsotig. Yn ystod chwe mis yr arddangosfa, ymwelodd miliwn o bobl â hi.

Cynllun o diroedd yr arddangosfa, gan gynnwys y panorama. Cliciwch yma.
Cynllun o diroedd yr arddangosfa, gan gynnwys y panorama

[BC/S1/11392]

Dechwelyd i'r top

link to the Heritage Lottery Fund webpages

Cliciwch i ehangu.