Glamorgan Record Office website
Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas
HAFAN
AM Y PROSIECT
CHWILIO AM GYNLLUN
ADNODDAU PLANT
DOLEN

Y Prosiect

Y Cynllunia

Rheolid Adeiladu

Catalogio

Cadwraeth

Hawlfraint

Y Cynlluniau

Ym 1841 roedd Caerdydd yn dref sylweddol ond yn gymharol fechan gyda phoblogaeth o ryw 10 000. Erbyn 1956 fe aeth yn brifddinas Cymru ac yn gartref i dros chwarter miliwn o bobl.

Fel heddiw, daeth yr ysgogiad am newid o’r glannau. Erbyn diwedd y 19eg ganrif Caerdydd oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd gyda chymuned ryngwladol amrywiol yn perthyn iddi. Roedd ei thwf mor gyflym fel bod pobl yn dechrau ei galw yn Chicago Cymru.

Mae’r dreftadaeth gyfoethog hon a ddaeth o ganlyniad i’r cyfnod hwn o drawsnewid yn cael ei arddangos yn fywiog yn y casgliad pwysig hwn o gynlluniau sy’n cynnwys amrywiaeth eang o adeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys sinemâu, traciau cŵn, gwestai, ysgolion, swyddfeydd, eglwysi, mosgiau, synagogau, ffatrïoedd, tai, siopau, barau coffi, llochesau cyrch awyr a llawer mwy.

link to the Heritage Lottery Fund webpages