| Caerdydd: hanes adeiladu prifddinas | |||||
HAFAN |
AM Y PROSIECT |
CHWILIO AM GYNLLUN |
ADNODDAU PLANT |
DOLEN |
|
Y Prosiect |
Y Cynllunia |
Rheolid Adeiladu |
Catalogio |
Cadwraeth |
Hawlfraint |
CadwraethYn ystod y rhestru aseswyd cyflwr y cynlluniau gan ddefnyddio meini prawf Arolwg Asesu Cadwraeth y Swyddfa Gadwraeth Genedlaethol. Mae hynny’n golygu bod y cynlluniau’n cael eu disgrifio fel bod mewn cyflwr da, gweddol, gwael neu gyflwr na ellir eu defnyddio a’u rhifo’n 1-4 fel y bo’n briodol. Yna cafodd y cynlluniau hynny wedi’u hasesu fel 3 neu 4 eu neilltuo am driniaeth gadwraeth mwy dwys. Mae cannoedd o’r cynlluniau mewn cyflwr gwael iawn ac mae angen gwaith cadwraeth arnynt cyn y bydd modd eu defnyddio.
Bwndel o gynlluniau ar bapur dargopïo cyn iddynt gael eu trin.
Gwneir papur dargopïo trwy orchuddio papur tenau gydag olew had llin. Mae’r olew wedi mynd yn hen ac wedi troi’r papur yn frown gan ei wneud yn fregus iawn.
Mae’r cynlluniau wedi eu gwahanu’n ofalus.
Defnyddir
gwres ysgafn cyfyngedig er mwyn llyfnhau’r crychiadau.
Defnyddir
papur sidan arbennig i gryfhau’r cynllun.
Y cynllun gorffenedig. [BC/S1/0]
Glasbrint cyn y driniaeth yn dangos rhwygiadau a darnau coll.
Ymlaciwyd y cynllunguda dŵr, yna fei gwastadwyd, â llenwyd y bylchau gan bapur o Siapon a pâst starts. Y glasbrint gorffenedig. [BC/S1/7948] |