empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

 

Cadwraeth

A oes gennych chi gasgliad o hen ddogfennau a ffotograffau teuluol gartref?

Cyngor

Mae ein staff cadwraeth bob tro’n hapus i roi cyngor ar y ffordd orau o storio a gofalu am y dogfennau hyn. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, ar y ffôn neu drwy’r post i drafod eich cofnodion; gallwn drefnu ymgynghoriad os oes angen.

Prynu deunydd storio a phecynnu

Mae storio deunyddiau yn gywir yn gam mawr tuag at sicrhau eu bod yn cael eu cadw ar gyfer y dyfodol. Gall prynu ychydig o ddeunyddiau pecynnu ar gyfer defnydd personol fod yn ddrud. Felly mae Archifau Morgannwg yn gwerthu’r eitemau hyn. Mae manylion llawn yr amrywiaeth o stoc, ynghyd â phrisiau i’w canfod isod. Cysylltwch â ni i archebu.

Deunyddiau cadw ar werth

Acid free document and print envelopes 6 x 9 inches
(152 x 229 mm ) A5
£0.50
9 x 12 inches
(229 x 305 mm) A4
£0.60
9½ x 14¾ inches
(241 x 375 mm) Foolscap
£0.65
Acid free file folders 9½ x 14¾ inches
(241 x 375 mm)
Legal size
£0.70
Acid free storage boxes 16 x 11 x 5 inches
(406 x 279 x 127 mm)
£3.00
16½ x 11 x 10 inches
(49 x 279 x 254 mm)
£4.00
Polyester pockets 2½ x 3¾ inches
(64 x 95 mm)
Carte de visite
£0.30
3½ x 6 inches
(99 x 151 mm) Postcard
£0.30
5 x 7 inches
(127 x 178 mm) Cabinet
£0.40
8¼ x 10¼ inches
(210 x 260 mm)
£0.50
Unbleached cotton tape ½ inch tape £0.40
per metre
Cotton researcher gloves One size £1.50
per pair
Filmoplast P & P90
Acid free self adhesive paper based repair tapes
Transparent (P) £8.50
Opaque (P90) £8.50

Gellir swmp-archebu hefyd. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion

Gwaith allanol

Mae Archifau Morgannwg yn ffodus o gael gwasanaeth gwarchodwr llawn amser, ynghyd â thîm o staff cadwraeth. Rydym yn fwy na pharod i rannu’r arbenigedd hon gyda sefydliadu allanol nad ydynt yn gallu cynnal gwaith cadw neu warchod eu hunain.

Hyfforddiant

Gweler ein tudalen 'Swyddi Gwag a Gwirfoddolwyr'

Cysylltwch â ni i drefnu ymweliadau grwp.

Yn ôl i’r brig

 

 

©Archifau Morgannwg, 2010