empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

 

Cyflwyno cofnodion

Sut alla i gyflwyno cofnodion?

Unigolion a sefydliadau preifat

Yn gyntaf, cysylltwch â ni ar e-bost, drwy’r post, ar y ffôn neu’n bersonol i drafod y cofnodion dan sylw. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’n ‘Polisi Casglu’. Os oes angen, gallwn drefnu i archifydd ddod i edrych ar y cofnodion ac, os gallwn eu derbyn, drefnu i’w cludo neu’u casglu. Gallwn hefyd awgrymu sefydliadau eraill os na allwn ni eu derbyn.

Gellir cyflwyno cofnodion i’r Archifdy mewn nifer o ffyrdd.

Fel rhodd, lle mae perchnogaeth y deunydd yn cael ei drosglwyddo i Gydbwyllgor Archifau Morgannwg ar ran ei awdurdodau cyfansoddol.

Drwy gyflwyno, lle’r ydych yn cadw perchnogaeth yr eitemau dan sylw. Mae’r rhai sy’n cyflwyno cofnodion yn dod i gytundeb gyda’r Archifdy ynglyn â defnyddio, storio a chadw’r eitemau hyn. Mae’r cytundeb hwn wedi’i amlinellu yn ein dogfen bolisi ‘telerau cyflwyno’.

Awdurdodau lleol

Mae’r Archifdy yn derbyn cofnodion sydd wedi’u dewis ar gyfer eu cadw’n barhaol gan ein hawdurdodau cyfansoddol.

Pa gofnodion awdurdodau lleol y dylid eu trosglwyddo i’r Archifau Morgannwg er mwyn eu cadw’n barhaol?

Os ydych yn credu bod gennych gofnodion sy’n addas ar gyfer eu trosglwyddo i’r Archifdy, cysylltwch â ni ar e-bost, drwy’r post neu ar y ffôn. Yna gallwn drafod yr eitemau dan sylw, a threfnu ymweliad ar gyfer eu gwerthuso, os oes angen.

Gallwch hefyd gysylltu â Rheolwr Cofnodion/Gwybodaeth eich Awdurdod Lleol a fydd efallai wedi pennu gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo cofnodion.

Gellir trefnu ymweliadau a hyfforddiant i staff Awdurdodau Lleol

 

Yn ôl i’r brig

 

 

 

©Archifau Morgannwg, 2010