1. Dewiswch Life event:
Dewiswch pa fath o ddigwyddiad bywyd (Bedydd, Priodas neu Gladdedigaeth) yr hoffech chwilio amdano.
2. Dewiswch Parish:
Mae’r ddewislen hon yn rhestru pob plwyf sydd â mynegai y gellir ei chwilio ar gyfer y digwyddiad yr ydych wedi’i ddewis; gallwch ddewis chwilio trwy un plwyf, neu gallwch ddewis chwilio pob plwyf (“all parishes”).
3. Chwilio:
Dewiswch gategori o’r ddewislen Search Within; y rhagosodiad yw cyfenw, ond gallwch newid hwn ar gyfer eich chwiliad – mae’r categorïau chwilio sydd ar gael yn amrywio yn ôl y math o gofrestr. Ar ôl dewis categori chwilio, teipiwch y term yr ydych am chwilio amdano yn y bocs Search For.
Gallwch ddewis ail gategori chwilio dewisol o’r ddewislen Also Search Within; y rhagosodiad yw enw cyntaf. Yna, teipiwch eich term chwilio yn yr ail focs Search For.
Ar ôl teipio’ch termau chwilio, cliciwch ar y botwm chwilio (“Search”). Nodir nifer y canlyniadau yn ymyl y botwm chwilio newydd (“New Search”) – mae pob canlyniad yn cynrychioli cofnod yn y gofrestr. Mae’r canlyniadau’n ymddangos o dan y bocsys chwilio, wedi’u rhestru gyda deg canlyniad ar bob tudalen – gallwch symud o un dudalen i’r llall trwy glicio ar rif tudalen, a ddangosir ar waelod y sgrin canlyniadau.
4. Gweld Delweddau Cofrestri:
Os bydd delweddau digidol yn bodoli ar gyfer cofnod cofrestr, bydd “View Register” yn ymddangos yng ngolofn dde bellaf y canlyniadau chwilio; cliciwch ar y ddolen i weld delweddau o’r gofrestr wreiddiol.
Bydd ffenestr newydd yn agor yn dangos pob tudalen o’r gofrestr y mae’ch cofnod yn ymddangos arni. Yna, gallwch bori drwy’r gofrestr tan i chi ddod o hyd i’r cofnod perthnasol, gan ddefnyddio’r llygoden i chwyddo neu leihau’r ddelwedd, a dal botwm chwith y llygoden i lawr i lusgo delweddau o amgylch y sgrin. You can also use the icons in the top-left to move from page to page of the register.
5. Argraffu/Cadw:
Ar ôl dod o hyd i’r cofnod yr ydych yn chwilio amdano, gallwch ddewis cadw neu argraffu’r dudalen berthnasol. Cliciwch ar y ddelwedd gyda’r llygoden, yna cliciwch ar yr eicon cadw/argraffu sy’n ymddangos ar ochr chwith y sgrin. Bydd hyn yn agor ffenestr newydd lle gofynnir i chi dderbyn telerau defnyddio’r ddelwedd; os byddwch yn derbyn, cliciwch Open Image i agor delwedd PDF o’r dudalen fel y gallwch ei chadw ar gofbin USB neu ei hargraffu.
6. Methu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano?
Nid yw pob un o’n cofrestri wedi’u mynegeio eto, sy’n golygu na ellir chwilio trwyddynt. Fodd bynnag, mae gennym ddelweddau o’r cofrestri hyn i bori trwyddynt. I wneud hyn, dewiswch gofnod o’r rhestr o gofrestri heb eu mynegeio (“Browse registers still to be indexed”). Bydd ffenestr newydd yn agor yn dangos pob tudalen o’r gofrestr y gellir pori trwyddi, ei hargraffu neu ei chadw fel y nodir uchod.
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, gofynnwch i aelod o staff am gymorth.