|
|
Cyrsiau
Hyfforddi?
Rydym yn
falch o gynnig sesiynau cyflwyno i weithwyr ein hawdurdodau
lleol ar y mathau o gofnodion sydd gennym, a sut y gallan
nhw eich helpu gyda’ch gwaith bob dydd.
Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod ein bod yn
cadw cofnodion eich awdurdodau blaenorol? Mae’r
rhain yn cynnwys:
...cofnodion
cynghorau a’u pwyllgorau
...cofnodion yr adrannau gwasanaethau cymdeithasol a’r
sefydliadau yr oeddent yn eu gweinyddu
...cynlluniau rheoliadau adeiladu a gyflwynwyd i awdurdodau
lleol eu cymeradwyo
...mapiau diffiniol hawliau tramwy
Staff
Llyfrgell a Swyddfa Gofrestru?
Mae’n debyg eich bod wedi cyfeirio nifer o bobl
atom ni yma yn yr Archifdy. Ond, a wyddoch beth rydym
yn ei wneud yma, a pha gofnodion sydd gennym? Trefnwch
i ddod am ymweliad i gael gwybod mwy.
Gwasanaethau
rheoli cofnodion?
Fforwm Gwybodaeth De Cymru
Archifau Morgannwg sy’n trefnu Fforwm Gwybodaeth
De Cymru. Mae aelodau’r Fforwm yn cyfarfod bob
chwarter i drafod materion rheoli gwybodaeth a rhannu
arferion gorau. Mae’r aelodaeth bresennol yn cynnwys
cynrychiolwyr o:
•
Archifau Morgannwg
• Gwent Record Office
• Cardiff County Council
• Powys County Council
• Caerphilly County Borough Council
• Blaenau Gwent County Borough Council
• Rhondda Cynon Taff County Borough Council
• Swyddfa Archwilio Cymru
• Gwasanaeth Heddlu De Cymru
• Newport County Council
• Bridgend County Borough Council
• Merthyr Tydfil County Borough Council
• Monmouthshire County Council
• Rhannu arferion da ym maes rheoli gwybodaeth,
gan gyfeirio’n arbennig at ddeddfwriaeth berthnasol,
rheoli cofnodion a rhannu data
• Darparu fforwm ar gyfer cyngor ac arweiniad
• Hyrwyddo cydweithredu a chysondeb rhwng awdurdodau
cyhoeddus yn y de-ddwyrain
• Cydweithio â grwpiau eraill sydd ag amcanion
tebyg
Os ydych chi’n gweithio yn y sector cyhoeddus,
yn gyfrifol am reoli cofnodion neu reoli gwybodaeth
ac eisiau ymuno â ni, e-bostiwch Archifau Morgannwg am ragor o fanylion.
Trosglwyddo
cofnodion?
I gael gwybodaeth am sut i drosglwyddo cofnodion sy’n
haeddu cael eu cadw yn Archifau Morgannwg, ewch i’n
tudalen ‘Cyflwyno cofnodion’.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r materion
uchod, cysylltwch â ni
|
|