Polisi Casglu

Diffiniad

 

Gwasanaeth archifdy Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (ar ran ardal hen Gyngor Dosbarth Cwm Rhymni), Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg - a hynny wedi'i gynnal gan Gyd-bwyllgor Archifdy Morgannwg.

 

Hawl i gasglu:

 

Mae Archifdy Morgannwg yn ceisio cydymffurfio â phob deddf sy'n berthnasol i archifdai awdurdodau lleol Cymru.

 

Mae'r Arglwydd Ganghellor wedi penodi'r Archifdy yn gadwrfa ar gyfer cofnodion cyhoeddus yr ardal dan amodau Adran 4(1) Deddf 'Cofnodion Cyhoeddus' 1958, gan gynnwys:

 

Llys y Chwarter, Llys yr Ynadon, Llys y Goron, Swyddfa'r Crwner, cofnodion GIG Adran Iechyd, y Lluoedd Tiriogaethol a Chynorthwyol, glofeydd cyn dyddiad breinio BGP, cofrestri llongau Bwrdd Tollau Tramor a Chartref EM, Pwyllgor Asesu Lleol Bwrdd Cyllid y Wlad, cynlluniau Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynglŷn â hen gloddfeydd, y Pwyllgor Cynghori ar Gomisiynwyr Cyffredinol Trethi Incwm, Pwyllgor Ymgynghorol Defnyddwyr Rheilffyrdd.

 

Mae'r Archifdy wedi'i gydnabod gan:

 

Meistr y Rholiau (yn gadwrfa swyddogol ar gyfer cofnodion maenorau a degymau).

 

Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol (yn gadwrfa sy'n cyflawni Safon Cadwrfeydd Cofnodion).

 

Bwrdd Cynrychiadol yr Eglwys yng Nghymru (yn gadwrfa ar gyfer cofnodion plwyf Esgobaeth Llandaf yn unol â chytundeb rhwng y Bwrdd Cynrychiadol ac Archifdai Sirol Cymru).

 

Archesgobaeth Eglwys Rufain Caerdydd (ar gyfer cofnodion plwyf deoniaethau Dwyrain Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau'r Cymoedd a Phontypridd yn unol â chytundeb rhwng Archesgobaeth Caerdydd ac Archifdai Sir Henffordd, Morgannwg a Gwent).

Ystod y gwaith casglu:

 

Mae Archifdy Morgannwg yn gwasanaethu ardal hen siroedd Morgannwg Ganol a De Morgannwg, ac, ar gyfer cofnodion plwyfi eglwysig, Esgobaeth Llandaf ac Archesgobaeth Caerdydd ar gyfer y deoniaethau a rhestrir uchod. Mae'r Archifdy hefyd yn gyfrifol am archifau Sir Forgannwg sy'n perthyn i'r cyfnod cyn 1974 ac yn ymwneud â holl ardaloedd yr hen sir honno.

 

Yn amodol ar yr angen i gadw archifau o'r un fath ynghyd lle bo'n bosibl ac yn ymarferol, fydd yr Archifdy ddim yn derbyn cofnodion sy'n ymwneud ag ardaloedd y tu allan i'r ffiniau sydd wedi'u pennu, oni bai bod amgylchiadau arbennig a bod unrhyw archifdy perthnasol arall wedi rhoi'i ganiatâd.  Yn achos dadl rhwng yr Archifdy a chadwrfa arall ynglŷn â'r lle mwyaf priodol i gasgliad penodol, byddwn ni'n cael cyngor cymodwr annibynnol.

 

Rhaid i'r deunydd mae'r Archifdy yn ei dderbyn fod yn unol â diffiniad y National Council on Archives, sef 'cofnodion sydd wedi cronni trwy broses naturiol o weinyddu materion o unrhyw fath, boed gyhoeddus neu breifat, unigol neu gorfforaethol, ac sydd wedi'u cadw achos bod iddyn nhw werth gweinyddol neu hanesyddol' (Polisi Archifau 1996) ac yn unol â diffiniadau'r deddfau perthnasol, gan gynnwys Deddf 'Cyfraith Eiddo' 1922, Deddf 'Degymau' 1936, Deddf 'Cofnodion Cyhoeddus' 1958 a Deddf 'Llywodraeth Leol' 1972.  Byddwn ni'n derbyn ffotograffau a chofnodion ar ffurf cyfryngau cyfoes lle bo modd eu hystyried yn brif ffynhonnell ynglŷn â hanes Morgannwg.  Fyddwn ni ddim yn derbyn papurau newydd fel arfer, gan eu hanfon nhw i'r llyfrgell briodol.  Byddwn ni'n anfon gweithiau llaw i'r amgueddfa briodol fel arfer, ac yn anfon ffilmiau i Archifdy Sgrîn a Sain Cymru.

 

Casglwyd gweithiau printiedig a chyhoeddedig gan Archifdy Morgannwg er mwyn:

 

Y broses gasglu

 

Byddai'n well gyda'r Archifdy gael casgliadau sydd wedi'u cyflwyno yn rhoddion, yn ôl yr Amodau Adneuo, yn hytrach na'u prynu nhw achos nad oes llawer o arian i'r diben hwnnw.  Dim ond dogfennau hanesyddol pwysig sy'n perthyn i'r ardal yma byddwn ni'n eu prynu.  Rydyn ni hefyd yn cael cofnodion trwy gyfrwng trosglwyddo uniongyrchol oddi wrth yr awdurdodau lleol sy'n cyfrannu i'r cyd-wasanaeth.

 

Prynwyd rhan fwyaf o ddaliadau printiedig Archifdy Morgannwg. Derbynnir deunydd printiedig hefyd fel rhoddion, ond ni dderbynnir ar adnau neu ar fenthyg.

 

Mae'r Archifdy yn cymryd fod gan pob casgliad a chynigwyd hawl berchen glir a dilys iddo. Byddwn yn rhoi derbynneb i'r perchennog ac arni ddisgrifiad o'r dogfennau dan sylw a manylion mynediad cyn pen 15 diwrnod ar ôl eu derbyn. Byddwn yn paratoi gwybodaeth fanylach yn ôl polisi cyfredol yr Archifdy a'i rhoi i'r perchennog maes o law.

 

Wrth brosesu'r casgliad, naill ai cyn ei drosglwyddo i'r Archifdy neu wedyn, byddwn ni'n gofalu bod ansawdd y dogfennau yn addas ar gyfer eu cadw'n barhaol ac nad oes rhai o'r un fath mewn cadwrfa yn barod.  Bydd gyda'r Archifdy'r hawl i drosglwyddo dogfennau i gadwrfa fwy addas os ydyn ni o'r farn byddai hynny o les iddyn nhw.  Byddwn ni'n anfon yn ôl at y perchennog unrhyw ddogfennau nad ydyn nhw wedi'u dewis i'w cadw'n barhaol, oni bai bod trefniadau amgen wedi'u pennu adeg eu trosglwyddo.  Mae'r hawl gyda'r Archifdy i adolygu casgliadau yn rheolaidd ac argymell y dylid cael gwared arnynt yn ôl yr angen, neu drosglwyddo deunydd printiedig i'r archifau.

Mynediad i'r dogfennau

 

Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r cyhoedd am gasgliadau newydd cyn gynted ag y bo modd.  Byddwn ni'n lledaenu gwybodaeth am sut mae cael hyd i'r dogfennau, gan ddefnyddio'r dechnoleg orau ar gyfer cyrraedd cymaint ag y bo modd o bobl.

 

Chwefror 2003
I'w adolygu Mehefin 2006