empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

 

Llunio Ymholiad

Byddwch yn Gryno

Bydd yn haws i ni ateb eich ymholiad ymchwil os ydych chi’n gryno wrth nodi yn union yr hyn yr ydych ei eisiau. Bydd cadw’r ymholiad yn fyr yn arbed amser i ni ac yn osgoi’r perygl o ailadrodd gwaith ymchwil. I ymdrin â’ch ymholiad yn gyflym, mae angen i ni wybod:

    • Pwy ydych chi (enw llawn)
    • Yr hyn yr ydych am i ni ei wneud
    • Manylion sydd eu hangen/manylion yr ydych yn eu gwybod (enwau, dyddiadau, llefydd)

Byddwch yn Benodol

Yr hyn yr ydych ei eisiau? Nodwch yn union beth yr ydych am i ni ei wneud a nodi manylion penodol fel enwau, dyddiadau a llefydd. Rhowch wybodaeth sy’n berthnasol i’ch ymholiad yn unig. Os ydych yn gofyn am wybodaeth am unigolyn arbennig ar gyfer hanes teuluol, rhowch gymaint o’r wybodaeth ganlynol ag y gallwch i ni:

    • Enw (enwau eraill)
    • Dyddiad a man geni
    • Dyddiad a man marw
    • Dyddiad a man priodi
    • Manylion lle’r oedd yn byw (cyfeiriad neu bentref / tref / dinas) gyda dyddiadau os yn bosibl

Po fwyaf o wybodaeth a rowch chi, y gorau yw’r cyfle y byddwn yn gallu dod o hyd i wybodaeth.

Atal Ailadrodd

Y peth olaf yr ydym am ei wneud yw codi tâl arnoch am waith ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud. Dywedwch wrthym pa ddogfennau cyfeirio, catalogau ar-lein ac adnoddau ar y we yr ydych wedi edrych arnynt a beth yr ydych wedi’i ganfod yn barod. Y ffordd orau o wneud hyn yw rhoi’r manylion fel atodiad.

Rhowch wybod i ni os hoffech ymateb ar ffurf copi caled a sicrhewch eich bod yn cynnwys cyfeiriad post.

Llunio’ch Cais

Bydd cais sy’n hawdd ei ddarllen ac wedi’i rannu’n adrannau dan gyfres o benawdau fel:

    • Gwaith ymchwil yr ydych am ei gomisiynu
    • Ffeithiau (enwau, dyddiadau, llefydd… ac ati.)
    • Gwaith ymchwil yr ydych eisoes wedi’i gyflawni (dogfennau cyfeirio, catalogau, adnoddau ar-lein … ac ati.) [Cyflwynwch ef fel atodiad os yw’n hir]

yn ein helpu i nodi eich gofynion yn hawdd a chyflym.

 

© Archifau Morgannwg, 2010