empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

 Ymweld

Oriau agor:

Dydd Llun 1300-1700
Dydd Mawrth - Dydd Gwener 0900-1700

Ac

Un bore dydd Sadwrn y mis 0900-1200
Un nos Lun y mis 1300-2000

Nadolig 2011/ Blwyddyn Newydd 2012 Oriau Agor

2012 Extended Opening Hours

 

Glamorgan Archives on Open Street Map

 

 

Adeilad newydd Archifdy Morgannwg

Cynhelir teithiau am ddim o gwmpas Archifdy Morgannwg bob 3ydd dydd Mercher o’r mis, yn dechrau am 2.30pm

Mae teithiau’n para tua awr, ac mae angen archebu lle ymlaen llaw.

 

Am ragor o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â ni

 

Apwyntiadau
Nid oes angen gwneud apwyntiad i ymweld â’r Archifdy.

Hygyrchedd
Mae Archifdy Morgannwg yn gwbl hygyrch

Lluniaeth
Yn ein cyntedd, mae yna beiriant sy’n cynnig byrbrydau a diodydd poeth ac oer. Mae yna hefyd seddi lle gallwch eistedd i ymlacio a bwyta’ch bwyd eich hun. 

Mae’r Archifdy bum munud ar droed o barc manwerthu sy’n cynnwys sawl caffi a siop frechdanau.

 

Ymlaciwch yng nghyntedd adeilad newydd Archifdy Morgannwg

Cofrestru
Er mwyn defnyddio ystafell chwilio Archifdy Morgannwg, bydd angen i chi gofrestru fel chwiliwr ar eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn gofyn i chi roi rhai manylion personol, gan gynnwys cyfeiriad cartref a rhif ffôn, a manylion eich ymchwil; byddwn hefyd yn tynnu’ch llun.

I gwblhau’r cofrestriad, gofynnir i chi gytuno i reolau ein hystafell chwilio a darparu dau ddull adnabod, un yn cynnwys prawf o’ch enw (e.e. trwydded yrru, cerdyn banc/credyd, pasbort) ac un arall yn cynnwys prawf o’ch cyfeiriad (e.e. bil cyfleustod, bil y dreth gyngor, dogfen/llythyr swyddogol – gyda dyddiad o fewn y tri mis diwethaf). Os na allwch gyflwyno dogfennau o’r fath, am ba bynnag reswm, dylech siarad ag aelod o staff a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio ein gwasanaeth.
Ar ôl cofrestru, cewch gerdyn cofrestru y bydd angen i chi ddod ag ef gyda chi pan fyddwch yn ymweld â’r Archifdy


O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, ni chaiff y wybodaeth a ddarperir ei throsglwyddo i unrhyw un arall, a chaiff ei chadw at ddibenion mewnol yn unig.

Cypyrddau clo
Darperir cypyrddau clo ar gyfer eiddo personol fel cotiau, bagiau a bagiau dogfennau gan na ellir mynd â nhw i mewn i’r ystafell chwilio.

Pensiliau
Dewch â phensil gyda chi gan na ellir defnyddio pinnau ysgrifennu yn yr ystafell chwilio.

Defnyddio camerâu
Mae croeso i chi ddefnyddio’ch camera digidol eich hun i dynnu lluniau o ddogfennau cyn belled â’ch bod yn gofyn i’r Archifydd sydd ar ddyletswydd ac yn llenwi ffurflen ffotograffiaeth bersonol yn gyntaf.

Defnyddio gliniaduron

Mae cyfrifiaduron cyhoeddus ar gael i chwilwyr eu defnyddio ac mae croeso i chi ddefnyddio’ch gliniadur eich hun. Mae mynediad di-wifr i’r rhyngrwyd ar gael yn yr Archifdy.

©Archifau Morgannwg , 2010