|
Archifau
yw deunydd crai hanes.
Mae archifau
yn ddogfennau sydd wedi’u creu neu’u casglu
a’u meddu gan unigolyn neu sefydliad a’u
cadw gan eu bod yn ateb ein cwestiynau.
Mae archifau
yn dweud wrthym pwy ydyn ni.
Mae archifau
yn dweud wrthym beth a wnaed yn y gorffennol ac yn
ein helpu i benderfynu beth i’w wneud nawr ac
yn y dyfodol.
Mae archifau
yn dweud wrthym sut oedd ein cyndeidiau yn byw.
|
|
|
Mae
archifau yn
dweud wrthym o ble’r ydym yn dod.
Mae archifau
yn dangos i ni sut mae cenhedloedd, sefydliadau a chymunedau
heddiw wedi datblygu, drwy gofnodi eu gweithrediadau, llwyddiannau
a methiannau.
Archifau yw
ein cof bregus a gwerthfawr, i’w drysori am byth.
Mae pob sefydliad ac unigolyn yn cynhyrchu cofnodion ac
archifau yn ystod eu gweithrediadau bob dydd.
Gall archifau fod ar bapur neu femrwn, gallent fod yn llyfrau
neu fapiau neu gynlluniau, ffotograffau neu brintiau, ffilmiau
neu fideos, neu gofnodion wedi’u creu ar gyfrifiadur.
Maen nhw’n ffynhonnell bwysig a rhyfeddol o wybodaeth
ar gyfer gwaith ymchwil hanesyddol. Maen nhw hefyd yn darparu
tystiolaeth hanfodol o hawliau a rhwymedigaethau, a phenderfyniadau
a dyfarniadau.