empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

 Beth sy’n digwydd yma?

Yn Archifau Morgannwg rydym yn...

Casglu cofnodion sy’n berthnasol i hanes Morgannwg a’i phobl. Gall gofnodion amrywio o bapur, cynlluniau, ffotograffau, memrynau, dyddiaduron personol a chofnodion cynghorau. Gweler ein polisi casglu am ragor o wybodaeth.

Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn canfod cofnodion sydd mewn perygl o gael eu dinistrio neu sydd wedi difetha er mwyn eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Catalogio cofnodion fel bod pobl yn gallu canfod deunyddiau a fyddai’n gallu bod o ddiddordeb iddynt.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith catalogio, gweler adran ‘Y Casgliad’ ar ein gwefan.

Gwarchod a chadw cofnodion, gan sicrhau bod eitemau sy’n cael eu rhoi, eu cyfrannu a’u trosglwyddo i’r Archifdy yn cael eu cadw dan yr amodau amgylcheddol gorau a’u pecynnu mewn deunyddiau priodol.

Gellir canfod manylion ein gwasanaethau cadw yn yr adran ‘Gwasanaethau’.

Sicrhau bod y cofnodion ar gael yn ein hystafell chwilio gyhoeddus. Mae’r oriau agor a manylion pellach am y gwasanaethau a gynigir yn ein hystafell chwilio i’w gweld yn yr adran ‘Gwasanaethau’.

Cynnig cyngor ar ddefnyddio’r cofnodion, fel eich bod yn cael y gorau o’ch amser yma. Os hoffech gyngor cyn ymweld, neu os na allwch ymweld eich hun, ewch i’r dudalen ‘Ymchwil ac Ymholiadau’ yn yr adran ‘Gwasanaethau’.

Rhoi sgyrsiau i grwpiau sy’n ymweld, fel cymdeithasau lleol, dosbarthiadau nos, grwpiau o athrawon, neu weithwyr awdurdodau lleol. Mae gwybodaeth am drefnu ymweliad ar gael yn ein hadran ‘Gwasanaethau’.

Trefnu arddangosfeydd i roi gwybod i bobl pwy ydym ni, ble rydym ni a beth yw ein gwaith. Rydym yn defnyddio’n dogfennau unigryw i greu arddangosfeydd fel bod mwy o bobl yn gallu gweld a chael gwybod am ein cofnodion a’n gwasanaethau. Mae gennym nifer o arddangosfeydd symudol ar gael i’w harddangos mewn llyfrgelloedd, ffeiriau hanes lleol a lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn paratoi arddangosfeydd arbennig i gyd-fynd â dyddiadau penodol a digwyddiadau arbennig. Gallwch hefyd logi ‘rhith arbenigwr’, DVD o sgyrsiau staff am bynciau poblogaidd. Gweler yr adran ‘Gwasanaethau’ am fanylion.

Cysylltwch â ni am gymorth os ydych chi angen cymorth i gynllunio arddangosfa neu i ganfod pa ddogfennau sydd gennym ni.

©Archifau Morgannwg , 2010