empty

Archifau Morgannwg

darganfod y gorffenol

map y safle

Adref

Amdanom Ni Gwasanaethau Y Casgliad Beth Sy’n Newydd Dolenni

 

 Ble rydym ni?

Cysylltu a ni

Address::

Glamorgan Archives
Clos Parc Morgannwg

Leckwith
CARDIFF
CF11 8AW


Ffon: (029) 2087 2200

Ebost: GlamRO@cardiff.gov.uk


Sut i ddod o hyd i ni:


Glamorgan Archives on Open Street Map

 

Mae adeilad newydd Archifau Morgannwg yng Nghlos Parc Morgannwg yn Lecwydd (hen safle City Farm Lane ). Mae Clos Parc Morgannwg yn ymyl siop HSS Hire ar Ffordd Sloper.

Os ydych am ddod yma ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i Traveline Cymru, National Rail Enquiries, Trenau Arriva Cymru, Bws Caerdydd i gael gwybodaeth. Mae Newyddion Traffig a Chamerâu ar gael gan y BBC

Teithio ar Drên

O orsaf Caerdydd Canolog, ewch ar y trên naill ai i Grangetown neu Barc Ninian. Mae Grangetown ar linell Penarth ac mae Parc Ninian ar Linc y Ddinas i gyfeiriad Radur. Mae trenau i Radur yn gadael bob hanner awr, a threnau i Grangetown yn gadael bob 8-10 munud.
Os ydych chi’n teithio o Ogledd Caerdydd, ewch oddi ar y trên yn Y Radur a dal unrhyw drên sy’n teithio i gyfeiriad Coryton ar Linc y Ddinas, a fydd yn teithio trwy Barc Ninian ar ei ffordd i orsaf Caerdydd Canolog. Mae trenau ar Linc y Ddinas yn rhedeg bob hanner awr.

Teithio ar Fws

O orsaf bysiau Caerdydd Canolog, gallwch ddal gwasanaeth Rhif 1 neu 2. Mae’r gwasanaethau hyn yn mynd o gwmpas y ddinas mewn cylch, a dylech ddal Rhif 1 i deithio i’r swyddfa a Rhif 2 i ddychwelyd i’r orsaf. Mae’r ddau wasanaeth hwn yn aros yn yr arhosfan agosaf at y swyddfa ac yn rhedeg ddwywaith yr awr. Fel arall, mae gwasanaethau Rhif 92, 93, 94 a 95 yn aros ar ddau ben Ffordd Sloper, llai na 10 munud ar droed o Archifdy Morgannwg. 

Teithio mewn Car

Dylid gosod teclynnau llywio â lloeren i’r cod post CF11 8AW. Mae ein stryd, Clos Parc Morgannwg, yn rhy newydd i fod ar y rhan fwyaf o systemau, ond efallai y dewch o hyd i’w rhagflaenydd, City Farm Road, sydd fwy neu lai yn yr un lle. Unwaith y byddwch ar Heol Sloper, mae’r troad yn ymyl y siop HSS Hire rhwng Stadiwm Dinas Caerdydd a’r depo bysiau.
Os nad oes gennych declyn llywio â lloeren, o Ganol y Ddinas dilynwch yr A4161 Heol y Bont-faen tuag at (M4) (A48) Maes Awyr Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Cariwch ymlaen i Stryd Wellington, yna ar y gyffordd pum ffordd gyda Heol Lecwydd, trowch i’r chwith i Heol Lecwydd tuag at Benarth a Dinas Powys. Cariwch ymlaen o dan y ddwy bont rheilffordd a throwch i’r chwith i Heol Sloper, mae’r troad i Glos Parc Morgannwg tua ¼ milltir ar hyd y ffordd ar yr ochr dde.


O’r tu allan i Gaerdydd, teithiwch i Gyffordd 33 ar yr M4 a gadael y draffordd i ymuno â’r A4232. Cymerwch y drydedd ffordd yn Lecwydd (ar ôl Amgueddfa Werin Cymru a Chroes y Cwrlwys), ac yna cymerwch y ffordd gyntaf ar y gylchfan (y lôn ochr chwith) i Heol Lecwydd B4267. Cariwch ymlaen ar hyd Heol Lecwydd yn y lôn chwith am oddeutu hanner milltir nes i’r ffordd gulhau wrth i chi ddod i groesffordd sy’n cael ei rheoli gan oleuadau traffig cyn dod i bont rheilffordd. Trowch i’r dde i Heol Sloper ar y groesffordd. Mae’r troad i Glos Parc Morgannwg tua ¼ milltir ar hyd y ffordd ar yr ochr dde.


Mae gennym ddigon o le i ymwelwyr barcio eu ceir a’u beiciau.

 

©Archifau Morgannwg , 2010